Angen trwsio cerflun Owain Glyndŵr wedi iddo gael ei daro gan lori

ITV Cymru
Owain Glyndwr

Roedd Dydd Gwener y 13eg yn un ychydig yn anlwcus i Owain Glyndŵr wrth i'w gerflun orfod cael ei dynnu o’i blinth yng Nghorwen i gael ei drwsio ar ôl cael ei fwrw gan lori.

Roedd rywfaint o ddifrod i’r cerflun wedi i lori droi oddi ar yr A5 a tharo cyn Dywysog Cymru.

Dywedodd Colin Spofforth a wnaeth gerfio’r cerflun ei fod wedi “gwyro ychydig bach” a bod angen “trwsio hynny”. Roedd yr ysbardun ar un o’i draed hefyd wedi torri i ffwrdd.

Image
Cerflun Owain Glyndwr

Dywedodd Sian Thomas, Prif Weithredwr Cyngor Tref Corwen: “Rydyn ni’n sylweddoli pa mor bwysig yw’r cerflun nid yn unig i Gorwen ond i’r ardal gyfan.

“Mae’n rhaid iddo fod ar ei orau. Fe fydd yn cael ei drwsio rŵan ac fe fydd cystal â newydd ar ôl dod yn ôl. Mae’n cymryd gwyliau bach.”

Fe gymerodd ryw 40 munud i’w dynnu i lawr o’r plinth i ddechrau’r siwrne i ffowndri ym Mhowys i gael ei drwsio.

Fe gafodd y cerflun ei ddadorchuddio yn 2007 gan gostio £125,000.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.