‘Angen sgwrs ddifrifol’: Tîm achub mynydd yn Eryri yn galw ar ymwelwyr i ymddwyn yn ‘gyfrifol’
Mae tîm achub mynydd yn galw ar ymwelwyr i Eryri i ymddwyn yn “gyfrifol” ar ôl derbyn y nifer uchaf o alwadau mewn mis yn ystod mis Awst.
Mae Tîm Achub Mynydd Llanberis yn rhagweld y byddent wedi’u galw allan ar 440 achlysur erbyn diwedd 2026, ar ôl derbyn 59 galwad yn ystod eu mis prysuraf erioed fis diwethaf.
Fe fyddai hyn yn gynnydd o 79 o gymharu â’r nifer y llynedd.
Mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol ddydd Sadwrn, dywedodd y sefydliad mai’r peth oedd yn eu pryderu fwyaf oedd “y nifer cynyddol o bobl sydd yn mentro ar dir heriol heb fod wedi paratoi o gwbl ar gyfer yr hyn sy’n eu hwynebu".
Dywedodd llefarydd: “Ar ôl 59 o alwadau ym mis Awst, y mis prysuraf yn ein hanes, rydym yn credu ei bod hi’n bryd cael sgwrs ddifrifol am yr hyn sy’n digwydd ar ein mynyddoedd.
“Fe wnaeth ein gwirfoddolwyr gynnal ymgyrchoedd achub hirfaith yn y tywyllwch ac mewn tywydd gwael, delio ag anafiadau difrifol a phroblemau’n ymwneud â’r gwres, cynorthwyo pobl oedd yn sownd ar dir peryglus ac, yn drist iawn, ymateb i ddigwyddiadau lle collodd pobl ac anifeiliaid eu bywydau.”
Ychwanegodd y llefarydd: “Nid yw’r mynyddoedd wedi mynd yn fwy peryglus yn sydyn.
“Mae llwybrau a arferai gael eu dilyn yn bennaf gan gerddwyr mynydd a mynyddwyr profiadol bellach yn denu mwy a mwy o bobl sydd ag ychydig neu ddim profiad.
“Gall llun neu fideo o Grib Goch wneud i lwybr sgrialu agored Gradd 1 edrych fel unrhyw lwybr arall i’r copa. Yr hyn nad yw’n ei ddangos yw pa mor frawychus y gall y grib honno fod mewn niwl, glaw neu wyntoedd cryfion, na pha mor gyflym y gall sefyllfa y gellir ymdopi â hi droi’n argyfwng difrifol.”
'Anghynaladwy'
Mae ffigyrau’r sefydliad yn dangos cynnydd mewn galwadau maen nhw wedi'u disgrifio fel 'anghynaladwy'.
Ers 2022, mae’r nifer o alwadau wedi cynyddu 88% - o 233 i’r amcan ffigwr o 440 yn 2026.
“Rydym am i bobl fwynhau Eryri.
“Ond mae mwynhau’r mynyddoedd hefyd yn dod â chyfrifoldeb personol.
“Yn rhy aml, nid yw pobl yn gwybod y gallai llwybr ofyn am sgiliau, offer, ffitrwydd, profiad a barn benodol, na pha mor gyflym y gall yr amodau newid.
“Ni all yr ateb fod yn syml yn fwy o wasanaethau Achub Mynydd. Mae’n rhaid rhoi mwy o bwyslais ar atal digwyddiadau ac ar gyfrifoldeb personol.
“Byddwn bob amser yn ymateb pan fydd gwir angen ein cymorth ar rywun. Y cwestiwn mwy erbyn hyn yw: sut mae atal cymaint o bobl rhag bod angen cymorth yn y lle cyntaf?”