Angen pasbort i hwylio rhwng Cymru ac Iwerddon o fis Medi ymlaen
Bydd angen pasbort dilys ar deithwyr fferi rhwng Cymru ac Iwerddon o fis Medi ymlaen.
Dywedodd cwmnïau teithio Stena Line ac Irish Ferries ddydd Mercher y bydd angen pasbort i deithio rhwng y Deyrnas Unedig ac Iwerddon fel rhan o newidiadau i reolau Llu Ffiniau'r DU.
Mae'r newidiadau yn ymwneud â "chywirdeb a chyfanrwydd data teithwyr cyn iddynt fynd ar fwrdd y llong."
Bydd y newid yn dod i rym ar 28 Medi.
Ar hyn o bryd, nid oes rhaid i deithwyr ddangos pasbort bob tro, ond weithiau mae gofyn iddynt gyflwyno math arall o brawf adnabod, fel trwydded gyrru.
Dywedodd Stena Line y bydd angen i bob person sy'n teithio rhwng Caergybi a Dulyn neu Abergwaun a Rosslare ddangos pasbort wrth adael, ac na fydd unrhyw fath arall o brawf adnabod yn cael ei dderbyn.
Ychwanegodd y cwmni fod y rheol yn berthnasol i bob teithiwr.
"Mae'r tîm gwasanaeth cwsmeriaid wrthi'n cysylltu â chwsmeriaid sydd eisoes wedi archebu taith er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn cefnogaeth lawn yn ystod y newid hwn," meddai'r cwmni.
Nid oes newid i'r gofynion prawf adnabod ar gyfer teithwyr busnes neu hamdden ar wasanaethau Stena Line rhwng Gogledd Iwerddon a Phrydain, gan gynnwys gwasanaethau sy'n cysylltu Belfast â Lerpwl.
Mewn datganiad tebyg, dywedodd Irish Ferries: "Bydd gofyn i bob teithiwr, gan gynnwys dinasyddion Iwerddon a Phrydain, sy'n teithio rhwng Gweriniaeth Iwerddon a Phrydain, i'r ddau gyfeiriad, deithio gyda phasbort dilys."
Mae'r cwmni'n annog teithwyr i sicrhau bod ganddynt basbort neu gerdyn pasbort dilys cyn cyrraedd y porthladd.
O dan gytundeb yr Ardal Deithio Gyffredin, sydd wedi bodoli ers dros ganrif, nid oes gofyniad cyfreithiol i ddinasyddion Iwerddon a Phrydain gael pasbort er mwyn teithio rhwng Iwerddon a'r Deyrnas Unedig.
Ond mae rhai cwmnïau hedfan wedi mynnu bod teithwyr yn dangos pasbort cyn mynd ar awyren.