'Angen gwneud mwy': Galw am well triniaeth ar gyfer canser yr ymennydd

Laura Acreman-Scanlan a Susie Acreman
Laura Acreman-Scanlan / Susie Acreman

Mae dietegydd o dde Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i wella canlyniadau ar gyfer cleifion â thiwmor ar yr ymennydd, ar ôl i’w merch dderbyn diagnosis o ganser yr ymennydd.

Mae Susie Acreman o Borthcawl wedi cefnogi galwadau ar y Llywodraeth i gynyddu gwariant ar ymchwil ac ehangu mynediad at dreialon clinigol, sydd wedi’u hamlinellu ym maniffesto elusen Brain Tumour Research.

Mae tiwmorau ar yr ymennydd yn achosi mwy o farwolaethau o ganser ymysg pobl dan 40 oed yng Nghymru nag unrhyw fath arall o ganser meddai'r elusen.

Yn ôl Brain Tumour Research, dim ond 1% o wariant ar ymchwil canser sydd yn cael ei wario ar ganser yr ymennydd, gyda 17.2% o gleifion sydd yn derbyn diagnosis yn goroesi’n hirach na phum mlynedd – o gymharu â 61.5% ar draws pob math o ganser arall.

Cafodd merch Susie, Laura Acreman-Scanlan, cyfreithwraig 43 oed sydd yn byw yn Llundain ond yn wreiddiol o Gaerdydd, ddiagnosis o glioblastoma dair blynedd yn ôl, ychydig ar ôl ei phenblwydd yn 40 oed.

Dywedodd Susie, sydd yn gweithio fel dietegydd arbenigol gyda chleifion canser: “Does yna ddim byd yn eich paratoi chi i glywed bod gan eich plentyn eich hun diwmor ar yr ymennydd. Fe wnaeth diagnosis Laura droi ein byd ar ei ben.”

Mae iechyd wedi ei ddatganoli, ac felly'r Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr sydd yn gyfrifol am driniaeth Laura. Ond mae ei mam yn mynnu y gall rhagor gael ei wneud i wella canlyniadau cleifion yma yng Nghymru hefyd.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod eu buddsoddiad mewn canser arloesol "yn parhau i gefnogi ymchwilwyr yng Nghymru i gyfrannu at ymdrechion y DU a byd-eang i wneud diagnosis a thrin gwahanol fathau o ganser yn well, gan gynnwys canserau’r ymennydd."

Triniaeth

Ar ôl y diagnosis, fe gafodd Laura lawdriniaeth gymhleth ar yr ymennydd yng Nghlinig Cleveland yn Llundain yn Ionawr 2023, cyn cychwyn ar saith wythnos a radiotherapi a chemotherapi.

Daeth y glioblastoma yn ôl yn 2025, ac roedd yn rhaid i Laura dderbyn cemotherapi unwaith eto. 

Ar ôl cyfnod o lwyddiant, fe wnaeth y driniaeth stopio cael effaith, gan orfodi Laura i ddechrau ar fath gwahanol o gemotherapi. 

Mae nawr yn disgwyl am ganlyniadau sgan MRI er mwyn gweld a yw’r driniaeth wedi bod yn effeithiol, a beth yw’r camau nesaf – ond mae meddygon wedi dweud wrthi nad oes modd gwella o’r afiechyd bellach.

Mae elusen Brain Tumour Research yn galw am brofion dilyniannu genom cyfan ('whole genome sequencing'), a fyddai’n gallu rhoi darlun cyflawn o broffil y tiwmor a chynnig triniaethau sydd yn fwy penodol.

Image
Laura Acreman-Scanlon
Laura Acreman-Scanlan

Nid yw cleifion yng Nghymru yn gallu cael mynediad at y prawf yn rheolaidd ar hyn o bryd, gyda rhai yn gorfod teithio i Loegr i’w dderbyn. 

Mae’r elusen yn galw am wneud hyn yn rhan o’r gyfundrefn yng Nghymru, yn ogystal â buddsoddiad mewn rhewi tiwmorau, er mwyn cynnal profion genomaidd ehangach.

Dywedodd Susie bod opsiynau triniaeth Laura bellach wedi’u cyfyngu am nad oedd yr opsiwn o rewi a phrofi’r tiwmor ar gael yn y rhan fwyaf o ysbytai.

“Rwyf wedi gweithio ym maes gofal canser ers 1986 fel dietegydd oncoleg, a dros y blynyddoedd dwi wedi gweld newid enfawr. 

"Ddegawdau’n ôl, roedd disgwyl i bobl farw gyda chanser; nawr, mae’r rhan fwyaf yn byw gydag e. Yn anffodus, nid dyma’r achos os mae gennych chi diwmor ar ymennydd. Mae’r cynnydd wedi bod yn dorcalonnus o araf, a dyna pam rwy’n cefnogi’r maniffesto dros Gymru.

“Mae angen gwneud mwy, ar unwaith.”

'Angen arloesi'

Dywedodd Dr Karen Noble, Cyfarwyddwr Polisi Ymchwil ac Arloesedd gyda Brain Tumor Research ei fod yn “annerbyniol” nad oedd treialon clinigol tiwmor yr ymennydd wedi eu cynnal ers pum mlynedd.

“Canser yr ymennydd yw’r achos fwyaf cyffredin o farwolaeth canser ymysg plant a phobl ifanc, ond mae cleifion yn cael eu cloi allan o ddatrysiadau arloesol. Nawr yw’r amser i wneud pethau’n wahanol.”

Mae Brain Tumour Research wedi partneru gyda’r Cyngor Ymchwil Meddygol i fuddsoddi £500,000 mewn ymchwil glioblastoma ym Mhrifysgol Caerdydd, sef buddsoddiad mawr cyntaf yr elusen yng Nghymru. 

"Nod y prosiect fydd i ddatblygu system i ddosbarthu cyffur yn uniongyrchol i’r ymennydd ar ôl llawdriniaeth, i dargedu celloedd er mwyn ceisio eu hatal rhag adfer.  

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae ein buddsoddiad mewn ymchwil canser arloesol, gan gynnwys Canolfan Ymchwil Canser Cymru bwrpasol, Biobank Canser Cymru, a’r Ganolfan Niwrotherapïau Datblygiedig, yn parhau i gefnogi ymchwilwyr yng Nghymru i gyfrannu at ymdrechion y DU a byd-eang i wneud diagnosis a thrin gwahanol fathau o ganser yn well, gan gynnwys canserau’r ymennydd.

“Mae ein buddsoddiad yn y GIG hefyd yn galluogi sefydlu a chyflwyno astudiaethau ymchwil ar draws ystod eang o feysydd clefydau, gan gynnwys canser yr ymennydd.

“Mae ein Strategaeth Ymchwil Canser Cymru yn nodi rhywfaint o’r gwaith hwn a’r meysydd ymchwil canser lle mae cryfder ymchwil Cymru. Rydym hefyd yn cyd-ariannu’r Ganolfan Meddygaeth Canser Arbrofol yng Nghaerdydd gydag Ymchwil Canser y DU, fel rhan o rwydwaith yn y DU.”

Mae Newyddion S4C wedi cysylltu â Gwasanaeth Iechyd Lloegr am ymateb.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.