'Angen ail-ystyried rheolau darlledu ar ôl etholiad y Senedd'
Mae angen ailystyried rheolau ar ddarlledu gwleidyddol ar ôl etholiad y Senedd ym mis Mai, yn ôl arbenigwyr o Brifysgol Caerdydd.
Roedd yr ymchwilwyr wedi dadansoddi'r sylw a roddwyd gan y cyfryngau ar draws y DU i etholiad y Senedd yng Nghymru, yn ogystal ag etholiad Senedd yr Alban a’r etholiadau lleol yn Lloegr.
Yn y sylw a roddwyd i etholiad y Senedd, roedd darlledwyr yn cydbwyso safbwyntiau’r chwe phrif blaid, er mwyn cydymffurfio â rheolau darlledu’r DU.
Ond dywedodd yr Athro Stephen Cushion, a oedd yn arwain y prosiect, fod yr angen i roi'r un faint o sylw i chwe phlaid wahanol yn etholiad Cymru wedi cyfyngu ar allu’r cyfryngau i graffu yn effeithiol.
“Yn y sylw a roddwyd i etholiad y Senedd, er enghraifft, ni chraffwyd o gwbl, neu fawr ddim, ar dros saith o bob deg honiad polisi gan wleidyddion mewn newyddion teledu,” meddai.
“Nid yw hyn yn golygu y dylid rhoi’r gorau i ddidueddrwydd - yn arddull Fox News - ond mae angen ailystyried y rheolau i roi’r hyblygrwydd i ddarlledwyr graffu’n fanylach wrth iddyn nhw adrodd newyddion o ddydd i ddydd.”
Roedd y newid i’r system bleidleisio yng Nghymru wedi cyflwyno her ychwanegol i’r cyfryngau, meddai, wrth iddyn nhw orfod esbonio sut oedd y system newydd yn gweithio.
“Ar y cyfan, mae’r canfyddiadau’n dangos bod darlledwyr wedi chwarae rhan bwysig yn y gwaith o wneud etholiad y Senedd yn weladwy ac yn hygyrch i gynulleidfaoedd,” meddai Stephen Cushion.
“Defnyddiwyd amrywiaeth o fformatau, gan gynnwys esboniadau, cyfweliadau, rhoi sylw i’r polau piniwn a sgyrsiau sydyn yn y stryd i ohebu ar yr ymgyrch a denu sylw pleidleiswyr.
“Fodd bynnag, mae’r dadansoddiad hefyd yn nodi bod heriau mawr yn bodoli.
“Yn y dyfodol, bydd gofyn i’r cyfryngau sicrhau bod ymdrechion i gynrychioli ystod eang o bleidiau, adrodd ar farn y cyhoedd, a’r gwaith o addasu sylw i gynulleidfaoedd digidol yn cael eu cydbwyso ag esboniadau clir, craffu cyson a sylw sylweddol i ddadleuon polisi wrth ohebu o ddydd i ddydd.”
Canfu’r ymchwil hefyd fod 43.5% o adroddiadau am etholiad Senedd Cymru wedi rhoi sylw i drafodaethau ar annibyniaeth i Gymru.
Er bod annibyniaeth yn bwnc amlwg, roedd hynny’n golygu bod "llai o bwyslais ar bynciau pwysig eraill", gan gynnwys iechyd ac addysg, meddai’r ymchwilwyr.