Dyn o Sir Benfro wedi’i garcharu am werthu gwasanaethau 'dodgy sticks' anghyfreithlon
Mae dyn o Sir Benfro wedi cael ei garcharu am dair blynedd a dau fis am werthu gwasanaethau ffrydio anghyfreithlon ar hyn sy’n cael eu galw’n “dodgy sticks” i bron i 2,000 o gwsmeriaid.
Dyfeisiau ffrydio, fel Amazon Fire Sticks, sydd wedi’u haddasu neu eu llwytho gydag apiau anghyfreithlon yw “dodgy sticks”.
Maen nhw’n galluogi pobl i wylio cynnwys y byddai’n rhaid talu tanysgrifiad amdano fel arfer, gan gynnwys gemau pêl-droed byw, ffilmiau a rhaglenni teledu.
Fe wnaeth Michael Barrow, 48 oed o Aberdaugleddau, ennill mwy na £200,000 drwy ei wasanaeth anghyfreithlon, yn ôl Uwch Gynghrair Bêl-droed Lloegr.
Cafodd ei ddedfrydu yn Llys y Goron Abertawe ddydd Llun ar ôl iddo bledio’n euog i dair trosedd o dan y Ddeddf Twyll.
Roedd Barrow yn gweithredu gwasanaeth o’r enw MB Streams.
Gwasanaeth IPTV oedd MB Streams, sef gwasanaeth sy'n caniatáu i bobl wylio teledu a chynnwys arall drwy’r rhyngrwyd yn hytrach na thrwy erial, cebl neu loeren.
Nid yw gwasanaethau IPTV na dyfeisiau ffrydio yn anghyfreithlon ynddyn nhw eu hunain.
Tanysgrifiadau anghyfreithlon
Ond roedd Barrow yn gwerthu tanysgrifiadau anghyfreithlon a dyfeisiau ffrydio oedd wedi’u llwytho ymlaen llaw gydag apiau oedd yn galluogi cwsmeriaid i wylio gemau’r Uwch Gynghrair Bêl-droed a chynnwys arall heb dalu am danysgrifiadau swyddogol.
Yn ôl yr Uwch Gynghrair, roedd ganddo bron i 2,000 o gwsmeriaid.
Fe wnaeth Barrow hyrwyddo’r gwasanaeth ar Facebook yn wreiddiol.
Ond ar ôl iddo dderbyn hysbysiad yn ei gartref yn 2021 yn ei gyfarwyddo i roi’r gorau i’r gweithgareddau, fe newidiodd ei ddulliau mewn ymgais i osgoi cael ei ddal.
Roedd yn cyfyngu gwerthiant i bobl oedd wedi cael eu cyfeirio ato gan gwsmeriaid eraill, ac yn annog pobl i ddod i’w gartref i dalu mewn arian parod.
Pan oedd cwsmeriaid yn talu ar-lein, roedd yn gofyn iddyn nhw ddisgrifio’r taliadau fel rhai ar gyfer crysau pêl-droed retro.
Dywedodd y barnwr fod y cynllun yn dwyll masnachol ar raddfa fawr, soffistigedig ac wedi bod yn weithredol am gyfnod hir.
Ychwanegodd fod penderfyniad Barrow i barhau â’r gweithgareddau ar ôl cael ei rybuddio yn ffactor oedd wedi gwaethygu ei achos yn sylweddol.
Yr Uwch Gynghrair Bêl-droed oedd yn gyfrifol am yr erlyniad, gyda chefnogaeth FACT a thîm troseddau economaidd Tarian.
Mae FACT, sef y Federation Against Copyright Theft, yn gorff sy’n gweithio i atal achosion o dorri hawlfraint.
Mae Tarian yn uned ranbarthol sy’n ymchwilio i droseddau cyfundrefnol yn ne Cymru.
Dywedodd Stefan Sergot, Cyfarwyddwr Cyfreithiol Gorfodi’r Uwch Gynghrair Bêl-droed, fod y ddedfryd yn amlygu’r “canlyniadau difrifol” i bobl sy’n darparu gwasanaethau ffrydio anghyfreithlon.
“Roedd y penderfyniad i anwybyddu rhybuddion clir ond yn gwaethygu difrifoldeb y troseddu, ac mae hynny wedi’i adlewyrchu yn y ddedfryd,” meddai.
Dywedodd y gall gwasanaethau ffrydio anghyfreithlon hefyd olygu risgiau i gefnogwyr, gan gynnwys twyll, meddalwedd maleisus a dwyn hunaniaeth.
Dywedodd Emma Brown, Swyddog Datblygu Twyll Rhanbarthol Tarian, ei bod yn “siomedig” bod Barrow wedi parhau i droseddu ar ôl derbyn y rhybudd yn 2021.
“Cafodd ei rybuddio’n glir fod ei weithgareddau yn anghyfreithlon ac y gallai parhau â nhw arwain at ganlyniadau difrifol,” meddai.