Andy Burnham i ymweld â Chymru am y tro cyntaf fel Prif Weinidog
Bydd Prif Weinidog y DU, Andy Burnham, yn ymweld â de Cymru ddydd Iau i gyfarfod gweithwyr a phrentisiaid.
Hwn fydd ei ymweliad swyddogol cyntaf â Chymru ers dod yn Brif Weinidog, ac mae’n rhan o daith wrando ledled y DU cyn i’r Senedd yn San Steffan ddychwelyd yr wythnos nesaf.
Bydd Mr Burnham yn trafod ail-ddiwydiannu, swyddi a chostau byw gyda gweithwyr a phrentisiaid yn ystod y bore.
Mae hefyd wedi cyhoeddi y bydd yn dod â phenaethiaid llywodraethau datganoledig y DU ynghyd yng Nghymru ym mis Hydref.
Bydd Prif Weinidogion Cymru a’r Alban, yn ogystal â Phrif Weinidog a Dirprwy Brif Weinidog Gogledd Iwerddon, yn cyfarfod fel rhan o’r Cyngor Economaidd Cenedlaethol.
Nod y cyfarfod fydd cryfhau’r cydweithio rhwng Llywodraeth y DU a’r llywodraethau datganoledig er mwyn hybu twf economaidd ym mhob rhan o’r DU.
Cafodd y cyngor, a sefydlwyd am y tro cyntaf yn 2008, ei ailsefydlu gan Mr Burnham yn ystod ei wythnos gyntaf yn y swydd.
Taith costau byw
Daw’r ymweliad, sy'n rhan o "daith costau byw" y Prif Weinidog, ychydig dros fis ers i Mr Burnham olynu Syr Keir Starmer fel arweinydd y DU.
Ymhlith polisïau newydd Llywodraeth y DU dros yr wythnosau diwethaf mae'r penderfyniad i dorri TAW ar filiau trydan cartrefi.
Dywedodd y llywodraeth ei bod hefyd wedi gweithio gyda phartneriaid yng Nghymru i sicrhau bod cymorth milwrol ar gael yn ystod argyfyngau, gan gynnwys y tanau gwyllt yr haf hwn.
Wrth siarad cyn yr ymweliad, dywedodd Mr Burnham nad o wrando ar yr un lleisiau dro ar ôl tro y daw’r atebion i heriau’r DU.
“Fe fyddan nhw’n dod o’r llefydd sy’n gwybod beth yw eu cryfderau eu hunain, ac o lywodraeth sy’n barod i wrando ac yna gweithredu,” meddai.
“Swyddi da ym mhob cymuned, ym mhob rhan o’r DU. Dyna beth rwyf eisiau i bob arweinydd yn y wlad hon ymrwymo iddo.”