'Amhosib byw'n annibynnol': Galw am drafnidiaeth gyhoeddus fwy hygyrch i bobl fyddar

Kristy Hopkins

Mae menyw sy'n fyddar yn galw am ragor o gymorth i bobl fyddar neu sydd â nam ar eu clyw ac sydd eisiau defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.

Mae Kristy Hopkins, yn wreiddiol o Geredigion ond bellach yn byw yng Nghaerdydd, yn athrawes arbenigol i blant a phobl ifanc byddar ac yn rhiant i blentyn byddar hefyd.

Dywedodd wrth Newyddion S4C ei bod yn "amhosib" annog plant a phobl ifanc byddar i fod yn annibynnol pan nad yw'r amgylchedd o'u cwmpas yn caniatáu am hynny.

Yn ôl ymchwil gan Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Fyddar (RNID), mae mwy na thraean o bobl sy'n fyddar, sydd â cholled yn eu clyw neu sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL) yn osgoi defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus oherwydd "rhwystrau".

Tynnodd yr ymchwil sylw at rai o'r heriau y mae pobl fyddar yn eu hwynebu, sy'n cynnwys diffyg ymwybyddiaeth o anghenion pobl fyddar ymhlith staff trafnidiaeth gyhoeddus, yn ogystal â gwybodaeth nad yw'n glir.

Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd Ms Hopkins y gallai'r hyn a all ymddangos fel anghyfleustra "bach" i rywun arall, fod yn brofiad sy'n llawn straen i rywun byddar, heb fynediad at wybodaeth fel pawb o'u cwmpas:

"I'r mwyafrif o bobl, mae teithio ar fws neu drên yn weddol syml", meddai Kristy.

"Ond i rywun byddar, mae'n gofyn am gymaint o gynllunio, canolbwyntio, ansicrwydd.

"Fel athrawes i bobl fyddar 'dw i'n gwybod pa mor bwysig yw cyfathrebu a chael gwybodaeth hygyrch i blant byddar o oedran cynnar.

"'Dyn ni bob amser yn ceisio eu hannog i fod mor annibynnol a hyderus â phosibl.

"Ond mae hynny'n amhosib pan nad yw'r amgylchedd o'u cwmpas nhw'n caniatáu am hynny", meddai.

'Dibynnu ar sain'

Mae’r adroddiad sydd newydd ei gyhoeddi yn dangos i ba raddau y mae anghydraddoldeb ym maes teithio yn golygu bod pobl fyddar yn y DU yn cael eu “rhyddid wedi’i danseilio”, meddai Victoria Boelman, cyfarwyddwr mewnwelediad a pholisi'r RNID:

“Mae’r system drafnidiaeth yn parhau i ddibynnu’n helaeth ar gyhoeddiadau sain, yn enwedig yn ystod tarfu ar wasanaethau, er na all llawer o bobl fyddar a phobl â cholled clyw gael mynediad ato yn gyson, os o gwbl,” meddai’r adroddiad.

Yn ôl y ddogfen, roedd gwybodaeth weledol yn aml yn cael ei disgrifio fel rhywbeth “anghyson, annibynadwy neu ddim ar gael”,  gyda sgriniau wedi torri a diffyg cyswllt rhwng negeseuon gweledol a sain. 

"Mae ein hadroddiad yn dangos yn glir - am y tro cyntaf - i ba raddau y mae anghydraddoldeb teithio yn y DU yn golygu y gallai rhyddid pobl fyddar gael ei danseilio, a'u bod yn wynebu pryder a straen annerbyniol a diangen, dim ond er mwyn gallu teithio o A i B," meddai Ms Boelman.

'Tynnu'r rhwystrau'

Mae athrawon arbenigol i blant a phobl fyddar yn aml yn cefnogi teuluoedd gartref, yn gweithio mewn meithrinfeydd ac yn ymweld ag ysgolion cyffredin neu unedau arbenigol i sicrhau bod gan blant fynediad cyfartal at addysg.

Mae Kristy Hopkins yn byw gyda'i gwraig Elin a'u plant Macsen a Ffion-Hâf:
 
"'Dw i'n uniaethu gymaint gyda'r adroddiad hwn," meddai.
 
"Gall cyhoeddiad annisgwyl, newid munud olaf i blatfform, neu drên wedi'i ohirio gyda'r wybodaeth ond ar gael ar lafar, olygu colli manylyn pwysig, gan orfodi rhywun byddar i ddibynnu ar rywun diarth i roi gwybod be sy'n mynd yn ei flaen.
 
"'Dyw hygyrchedd ddim yn golygu rhoi mantais i rywun byddar, mae'n golygu tynnu'r rhwystrau na ddylai fod yno yn y lle cyntaf.
 
"Mae pobl fyddar bob amser yn gorfod bod 'on alert'  a gor-baratoi ar gyfer pob siwrne, neu osgoi trafnidiaeth gyhoeddus yn gyfan gwbl am nad yw'r wybodaeth ar gael iddyn nhw," meddai Kristy.
 
Yn ôl elusen yr RNID, mae mwy na chwech ymhob deg person (61%) yn teimlo’n bryderus wrth deithio ac mae 78% yn dweud bod yn rhaid iddyn nhw aros yn wyliadwrus trwy gydol y daith. 
 
Dywedodd hanner eu bod yn osgoi teithio ar adegau prysur, a 30% yn osgoi trafnidiaeth gyhoeddus lle bynnag y bo modd fel rhywun sy’n fyddar neu sydd â cholled clyw. 
 
'Rhagor o waith i'w wneud'
 

Dywedodd Llywodraeth Cymru mewn ymateb i'r adroddiad: “Rydym yn gweithio’n agos gyda Phanel Teithio Pobl Anabl Trafnidiaeth Cymru, ac mae eu profiadau yn ein helpu i ddeall beth sy’n gweithio’n dda a lle mae angen gwneud gwelliannau.

“Rydym yn parhau i fuddsoddi mewn trenau, bysiau a seilwaith newydd sy’n darparu gwybodaeth gliriach i deithwyr, gan gynnwys diweddariadau amser real lle bo hynny’n bosibl.”

Ychwanegodd y Llywodraeth y bydd "gwybodaeth well i deithwyr drwy gyhoeddiadau sain ac arddangosfeydd gweledol, gan wneud teithio’n fwy hygyrch i bawb" drwy fysiau newydd a gaiff eu cyflwyno drwy’r system fasnachfreinio yn y dyfodol.

Dywedodd llefarydd ar ran Trafnidiaeth Cymru: "Rydym yn cydnabod argymhellion adroddiad RNID ac wedi ymrwymo'n llawn, drwy'r fenter 'Travel for All', i adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth hygyrch ledled Cymru.

"Rydym am i bob teithiwr deimlo'n hyderus wrth deithio gyda ni drwy sicrhau bod ein gwasanaethau'n gynhwysol i bawb," meddai.

"Er bod cynnydd sylweddol wedi'i wneud dros y blynyddoedd diwethaf, rydym yn cydnabod bod rhagor o waith i'w wneud.

"Byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda'n partneriaid i gael gwared ar rwystrau ac adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth lle gall pawb deithio'n rhwydd ac yn hyderus."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.