Yr Alban allan o Gwpan y Byd a'u rheolwr yn ymddiswyddo
Mae rheolwr Tîm Pêl-droed yr Alban Steve Clarke wedi ymddiswyddo, o fewn awr wedi'r cadarnhad fod ei dîm allan o Gwpan y Byd.
Wedi i Ghana golli yn erbyn Croatia nos Sadwrn, doedd hi ddim yn bosib i'r Albanwyr gamu i rownd 32 olaf y bencampwriaeth.
Roedd y rheolwr 62 oed wedi bod wrth y llyw ers saith mlynedd, a fe yw'r rheolwr cyntaf yng nghamp y dynion i arwain ei wlad i dair prif bencampwriaeth bêl-droed.
Fis diwethaf, cafodd Steve Clarke ei wobrwyo â chytundeb pedair blynedd i arwain ei wlad, cyn i'r garfan deithio i America ar gyfer Cwpan y Byd.
Ond siomedig oedd perfformiad y tîm.
Y gobaith oedd curo Haiti yn hawdd yn y gêm gyntaf, ond buddugoliaeth o 1-0 gafodd yr Albanwyr, cyn colli yn erbyn Morocco a Brasil.
Llun: Reuters