Agor enwebiadau ar gyfer arweinydd newydd Llafur Cymru

Ken Skates

Mae enwebiadau wedi agor ar gyfer rôl arweinydd newydd Llafur Cymru ddydd Iau.

Fe wnaeth Pwyllgor Gweithredol Llafur Cymru gyfarfod ddydd Mercher i drafod yr amserlen ar gyfer ethol arweinydd parhaol newydd.

Mae’r aelod o’r Senedd dros Fflint Wrecsam, Ken Skates wedi ei benodi yn arweinydd dros dro yn sgil ymddiswyddiad Eluned Morgan yn dilyn yr etholiad ym mis Mai, a mae disgwyl iddo fod yn ymgeisydd ar gyfer y swydd yn barhaol.

Fe fydd y cyfnod enwebu yn dod i ben cyn dechrau gwyliau’r haf ar 16 Gorffennaf.

Bydd y cam nesaf yn y broses yn cael ei gytuno ar ôl i’r enwebiadau gau, meddai Llafur Cymru.

Mae’r Arglwydd Carwyn Jones, cyn Brif Weinidog Cymru, yn cynnal adolygiad o brosesau ar gyfer cystadlaethau i arwain Llafur Cymru ar hyn o bryd.

Mae’n bosib y bydd gan y Blaid Lafur ar draws y DU arweinydd newydd hefyd ddiwrnod wedi i'r enwebiadau gau, ar ddydd Gwener 17 Gorffennaf, wrth i enwebiadau gau ar gyfer y rôl honno hefyd.

Os nad oes ymgeisydd arall yn dod i’r amlwg gallai Andy Burnham gael ei ethol yn ddi-wrthwynebiad yn arweinydd ar 17 Gorffennaf cyn dod yn Brif Weinidog ar ddydd Llun 20 Gorffennaf.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.