Aelodau'r Senedd yn ymgynnull ar gyfer cyfarfod llawn cyntaf y Senedd newydd
Mae disgwyl iddi fod yn ddiwrnod prysur yn y Senedd ddydd Mawrth, gyda bwriad i Rhun ap Iorwerth gael ei benodi'n Brif Weinidog Cymru, ac i Lywydd newydd y Senedd gael ei ethol hefyd.
Fe fydd y cyfarfod llawn cyntaf o'r Senedd yn cael ei gynnal am 14:00 ddydd Mawrth yn dilyn yr etholiad a gafodd ei gynnal ddydd Iau diwethaf.
Bydd Aelodau'r Senedd yn ethol Llywydd a Dirprwy, a phan fydd y bleidlais honno wedi'i chwblhau, bydd y Senedd yn pleidleisio dros enwebu Prif Weinidog.
Bydd y broses o ddewis Llywydd y Senedd a'r Dirprwy yn digwydd yn gyntaf, gyda Paul Davies o'r Ceidwadwyr a Huw Irranca-Davies o'r Blaid Lafur wedi cyhoeddi eu bod yn ymgeisio ar gyfer y swydd.
O dan reolau'r Senedd mae rhaid i naill ai'r Llywydd neu'r Dirprwy fod yn rhan o'r llywodraeth, gyda'r llall yn aelod o'r wrthblaid oni bai bod dwy ran o dair o'r Senedd yn cytuno i hepgor y rheol.
Mae adroddiadau Reform UK wedi dweud wrth Plaid Cymru na fydden nhw'n cytuno i wneud hynny.
Ond mae Plaid Cymru yn dweud eu bod yn gallu enwebu Dirprwy Lywydd, allai yn ei dro weld Rhun ap Iorwerth yn cael ei gadarnhau'n brif weinidog ddydd Mawrth.
Mae'r llwybr yn glir i Rhun ap Iorwerth gael ei benodi'n Brif Weinidog cyntaf Plaid Cymru, wedi i'r Blaid Werdd ddweud y bydd eu dau aelod yn y Senedd yn pleidleisio o blaid Mr ap Iorwerth i fod yn arweinydd Cymru.
Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol a’r Blaid Lafur wedi awgrymu y byddan nhw'n ymatal yn y bleidlais.
Gyda dwy blaid yn ymatal a dim digon o niferoedd ymysg y Ceidwadwyr a Reform UK i atal penodiad Rhun ap Iorwerth, mae disgwyl felly y bydd Cymru'n gweld Prif Weinidog o rengoedd Plaid Cymru am y tro cyntaf erioed dros y dyddiau nesaf.
Bydd disgwyl i Reform UK enwebu eu harweinydd Dan Thomas i fod yn Brif Weinidog Cymru, ond na fydd hynny'n bosib gan nad oes gan y blaid ddigon o aelodau yn y Senedd i sicrhau y bydd hynny yn llwyddo.
'Llywodraethu'n well'
Yn ystod ymgyrch etholiad y Senedd roedd Plaid Cymru wedi cyhoeddi cynllun ar gyfer eu 100 diwrnod cyntaf pe bai nhw'n ennill yr etholiad.
Gyda hynny bellach yn realiti bydd disgwyl i'r blaid roi y cynlluniau hynny ar waith.
Yn y ddogfen hyd at 60 tudalen roedd cynllun i leihau rhestrau aros y Gwasanaeth Iechyd a chomisiynu adolygiad annibynnol o berfformiad y GIG.
Nid oedd unrhyw dargedau yn rhan o'r ddogfen ond dywedodd Plaid Cymru y byddan nhw'n creu 10 hwb llawfeddygol ledled Cymru.
Hefyd mae'r blaid eisiau mwy o rymoedd i Gymru gan gynnwys pwerau dros reilffyrdd, y system gyfiawnder, Ystâd Y Goron, cyfiawnder am gynllun rheilffordd cyflym HS2, a newid y fformiwla Barnett, sef y ffordd mae Cymru’n cael ei hariannu.
Mae Rhun ap Iorwerth wedi dweud y byddai'n barod i frwydro dros sicrhau'r pwerau hyn i Gymru gyda Phrif Weinidog y DU, Syr Keir Starmer, ond yn cydnabod na fydd hynny'n dasg hawdd.
Gwella gofal plant yw un o brif addewidion y blaid, gyda chynllun i ddarparu 20 awr yr wythnos am ddim i rieni gyda phlant rhwng naw mis a phedair oed.
Mae'r blaid wedi derbyn beirniadaeth bod y cynllun yn rhy gostus, ond mae Plaid Cymru yn mynnu eu bod nhw'n gallu fforddio ariannu'r cynllun hwn.
Yn y sector addysg dywedodd Plaid Cymru y byddai'n "symud ymlaen â datblygiad cynllun llythrennedd a rhifedd sylfaenol newydd" ac yn "comisiynu arolwg cyflwr adeiladau ysgolion cenedlaethol".
Addawodd y blaid hefyd i ddod â'r sector cyhoeddus ynghyd fel "un gwasanaeth cyhoeddus Cymreig" a'u bod nhw'n "llunio llwybr ymarferol i sero net erbyn 2040".