Yr actor Americanaidd Chuck Norris wedi marw'n 86 oed
Mae'r actor a'r ymladdwr 'martial arts' Americanaidd Chuck Norris wedi marw yn 86 oed.
Daeth yn adnabyddus am serennu gyda'i ffrind Bruce Lee yn y ffilm 'The Way Of The Dragon' (1972) ac yn y gyfres deledu 'Walker, Texas Ranger' fel y prif gymeriad.
Mewn datganiad, dywedodd ei deulu y byddai'n cael ei gofio fel "gŵr ymroddedig, tad a thaid cariadus" a "brawd anhygoel".
Yn y neges ar gyfrif Instagram yr actor, dywedodd ei deulu: "Gyda chalon drom y mae ein teulu'n rhannu marwolaeth sydyn ein hanwylyd Chuck Norris fore ddoe.
"Er yr hoffem gadw'r amgylchiadau'n breifat, roedd wedi'i amgylchynu gan ei deulu ac mewn hedd.
"I'r byd, roedd yn artist ymladd, yn actor, ac yn symbol o gryfder. I ni, roedd yn ŵr ymroddedig, yn dad a thaid cariadus, yn frawd anhygoel, ac wrth galon ein teulu."
'Ysbrydoli miliynau'
Dywedodd y teulu fod Chuck Norris, gafodd ei eni yn Oklahoma, wedi “byw ei fywyd gyda ffydd, pwrpas, ac ymrwymiad i’r bobl yr oedd yn eu caru”, gan ychwanegu fod ei waith wedi “ysbrydoli miliynau ledled y byd ac wedi gadael effaith barhaol ar gynifer o fywydau”.
Cyn dechrau ym myd actio fe wasanaethodd Norris yn Llu Awyr yr Unol Daleithiau, ac roedd ganddo wregys du mewn Karate, Taekwondo, Tang Soo Do, jiu jitsu Brasil, a jiwdo, gan sefydlu ei ddisgyblaeth ymladd ei hun sef Chun Kuk Do.
Yn dilyn ei ymddangosiad fel y cymeriad Colt yn 'The Way Of The Dragon', awgrymodd ffrind i Norris, yr actor Steve McQueen, y dylai actio fel gyrfa.
Fe aeth yn ei flaen i serennu yn y ffilm 'Breaker! Breaker!' ym 1977, ynghyd ag actio yn 'Good Guys Wear Black' (1978).
Daeth yn enw cyfarwydd ar ôl serennu yn y ffilmiau 'A Force Of One' (1979), 'The Octagon' (1980), ac 'An Eye For An Eye' (1981), gan ymddangos gyda'r diweddar Syr Christopher Lee.
