Achub tri o blant a dau oedolyn o’r môr ger Harlech

Hofrennydd

Fe gafodd pump o bobl, gan gynnwys tri o blant, eu hachub ar ôl iddyn nhw gael eu chwythu i’r môr ger Harlech brynhawn dydd Iau.

Fe gafodd Gorsaf Bad Achub Cricieth gais gan Wylwyr y Glannau i gynorthwyo pedwar o bobl mewn trafferthion oddi ar draeth Llandanwg.

Roedd dau blentyn yn eu harddegau, un plentyn iau ac un oedolyn wedi bod yn defnyddio dwy badlfwrdd pan wnaethon nhw gael eu chwythu allan i’r môr gan wyntoedd cryfion.

Yna fe aeth aelod o’r cyhoedd i’r dŵr mewn ymgais i helpu, a mynd i drafferthion hefyd.

Erbyn i’r bad achub gyrraedd, roedden nhw “i gyd gryn bellter o’r lan”.

Image
Padlfyrddwyr

Roedd un o’r padlfyrddwyr yn y dŵr ac yn dioddef o effeithiau’r oerfel, tra roedd y lleill yn dal gafael ar un o’r padlfyrddau.

Fe lwyddodd y criw i achub y pedwar, ynghyd â’r unigolyn oedd wedi mynd i’r dŵr i geisio helpu.

Roedd pryder fod un o’r rhai a gafodd ei achub - bachgen ifanc - yn dioddef yn ddifrifol o effeithiau’r oerfel, ac fe wnaethon nhw ofyn am gymorth meddygol. 

Oherwydd cyflwr y llanw, daeth y criw â’r bad achub at fanc tywod cyfagos a llwyddodd pedwar o’r rhai a gafodd eu hachub i gerdded i’r lan, tra cafodd y pumed ei gario ar y padlfwrdd oherwydd ei gyflwr gwan. 

Roedd Timoedd Achub Gwylwyr y Glannau a hofrennydd Gwylwyr y Glannau yno i gwrdd â nhw.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.