Acen Gymreig yn cael ei hychwanegu at ap AI Google
Mae Google wedi ychwanegu llais sy’n efelychu acen Gymreig at ei ap deallusrwydd artiffisial.
Mae’r llais Cymreig yn un o 66 o leisiau newydd sydd wedi’u hychwanegu at ap Gemini ar ffonau Android ac iOS.
Mae’r diweddariad hefyd yn cynnwys lleisiau sy’n efelychu acenion yr Alban, Newcastle, Lerpwl a Birmingham, ymhlith eraill.
Dywedodd Google fod y lleisiau wedi’u datblygu gyda chymorth pobl sy’n siarad yr acenion hynny, er mwyn gwneud iddyn nhw swnio’n fwy naturiol.
Yn ôl Neel Joshi, sy’n gyfrifol am ddatblygu Gemini Live, roedd yr ymateb i ragolwg o’r nodwedd yn gynharach eleni wedi bod yn "anhygoel".
"Rydym wedi mireinio pob opsiwn i sicrhau bod y rhythm yn teimlo’n naturiol ac yn gynnil, a bod y cyfan yn glir ac yn addas ar gyfer bywyd bob dydd," meddai.
"Y nod yw gwneud siarad â Gemini yn brofiad mwy personol a mwy naturiol, ble bynnag yr ydych chi."
Ychwanegodd nad yw’r lleisiau’n gorliwio'r acenion, nac o reidrwydd yn defnyddio bratiaith.
Ond mae pryderon y gallai technoleg o’r fath gael ei defnyddio gan droseddwyr i dwyllo pobl.
Mewn astudiaeth y llynedd, rhybuddiodd ymchwilwyr o Brifysgol Abertay yn yr Alban y gallai sgamwyr ddefnyddio lleisiau artiffisial sy’n efelychu acenion i wneud galwadau ffôn twyllodrus yn fwy credadwy.
Dywedodd Dr Neil Kirk, a arweiniodd yr ymchwil, ei bod yn mynd yn fwyfwy anodd i bobl sylwi ar y gwahaniaeth rhwng llais artiffisial a llais person go iawn.
"Mae hyn yn destun pryder difrifol, gan y gallai lleisiau sydd wedi’u creu neu’u haddasu gan ddeallusrwydd artiffisial gael eu defnyddio mewn sgamiau, yn enwedig os ydyn nhw’n gallu efelychu acenion a thafodieithoedd lleol," meddai

