Aberystwyth: Oedi cynllun yr Hen Goleg wedi 'cynnydd sylweddol mewn costau'

Hen Goleg Aberystwyth 2026

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi cyhoeddi eu bod am oedi cynllun sydd yn ailddatblygu adeilad yr Hen Goleg "yn dilyn cynnydd sylweddol yng nghyfanswm costau cwblhau'r prosiect."

Fe fydd y gwaith adeiladu presennol yn cael ei oedi er mwyn i'r Brifysgol gynnal "adolygiad cynhwysfawr o'r prosiect."

Yn ôl y ffigyrau cyhoeddus diweddaraf, cynyddodd cost y datblygiad i £53 miliwn.

Mae Newyddion S4C yn cael ar ddeall bod cost cwblhau'r datblygiad bellach yn £24 miliwn yn uwch na'r ffigwr yma.

Dechreuodd y gwaith yn 2022 a'r nod yn wreiddiol oedd ei gwblhau erbyn haf 2024 ar gost o £22 miliwn.

Y bwriad oedd datblygu nifer o elfennau newydd o fewn yr adeilad, gan gynnwys ystafelloedd gwesty, canolfan fenter i fusnesau creadigol a chanolfan wyddoniaeth.

'Cam nesaf'

Mewn datganiad dydd Llun, dywedodd y brifysgol y byddai'r oedi dros dro "yn rhoi cyfle i werthuso'r opsiynau ar gyfer y cam nesaf yng ngoleuni'r amcangyfrifon newydd o gostau uwch."

Bydd yr adolygiad yn ystyried costau yn y dyfodol, cyllid a'r amserlen fwyaf priodol ar gyfer y gwaith sy'n weddill.

"Rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo'n gadarn i ganlyniadau hirdymor y prosiect", meddai'r brifysgol.

Ychwanegodd y datganiad: "O ystyried y cynnydd mewn costau rhagamcanedig, mae'n ddoeth mabwysiadu dull ystyriol i sicrhau bod prosiect yr Hen Goleg yn cael ei gwblhau mewn ffordd sy'n cyflawni buddiannau parhaol i'n prifysgol, tref a Chymru.

"Hoffem ddiolch i'n staff, cyllidwyr, partneriaid a rhanddeiliaid am eu cefnogaeth, dealltwriaeth, cydweithrediad ac ymrwymiad parhaus, sydd wedi helpu i yrru'r cynnydd sylweddol hyd yn hyn.

"Byddwn yn parhau i ymgysylltu'n agos â phawb a oedd yn rhan o'r adolygiad drwy gydol y broses ac yn darparu diweddariadau pellach yn ôl yr angen."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.