Abertridwr: Pedwar yn y llys ar gyhuddiad o lofruddio bachgen 17 oed

Tristan Kerr

Mae pedwar o bobl wedi ymddangos mewn llys fore Mawrth ar gyhuddiad o lofruddio bachgen 17 oed yn Abertridwr, Sir Caerffili. 

Fe ymddangosodd Ricardo Elliot, 26, Connor Palfrey, 24, Elexi Manny, 24 a Georgie Mears, 18, yn Llys y Goron Casnewydd drwy gyswllt fideo. 

Mae’r pedwar wedi eu cyhuddo o lofruddio Tristan Shae Kerr a fu farw mewn tŷ yn y pentref ar 5 Chwefror. 

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i’r safle tua 17.45 yn dilyn adroddiadau fod bachgen yn ei arddegau wedi cael anafiadau difrifol. 

Mae disgwyl i’r achos llys gael ei gynnal ar 3 Awst, yn ôl y Barnwr Tracey Lloyd-Clarke.

Fe fydd Ricardo Elliot o Lundain, Connor Palfrey o Abertridwr, Elexi Manny o Senghenydd, a Georgie Mears, sydd heb gyfeiriad sefydlog, yn cael eu cadw yn y ddalfa .

Dydyn nhw ddim wedi cyflwyno ple. 

Brynhawn Mawrth, cyhoeddodd teulu Tristan Kerr deyrnged iddo gan ei ddisgrifio fel unigolyn a oedd yn “llawn cynhesrwydd.” 

Dywedodd: “Mab, ŵyr, nai, cefnder a ffrind oedd wedi ei garu’n fawr – yn ogystal â chymeriad adnabyddus ac annwyl i’w gymuned. 

“Roedd wir yn fab i’w fam: dewr, cryf a llawn cynhesrwydd. 

“I’w frodyr a’i chwiorydd, roedd yn fwy na theulu — roedd yn ffrind gorau iddyn nhw, yn arwr ac yn warchodwr.  

“Roedd ei bresenoldeb yn dod â chysur, chwerthin a sicrwydd.” 

Fel un oedd yn hoff o feiciau modur ac antur, cafodd ei ddisgrifio fel bachgen “direidus” oedd bob tro’n gwneud i bobl chwerthin. 

“Fe fyddwn ni yn eich caru chi am oes gyfan, dyw e ddim yn hwyl fawr, tan y tro nesaf yw hi,” meddai’r deyrnged. 

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Jitka Tomkova-Griffiths o Heddlu Gwent bod y llu yn parhau gyda’u hymchwiliadau ac yn annog pobl i beidio â dyfalu neu ledu cam-wybodaeth.

“Mae ein meddyliau yn parhau gyda theulu a ffrindiau’r dioddefwr yn ystod y cyfnod anodd hwn.” 

Mae e hefyd yn annog unrhyw un â gwybodaeth allai fod o gymorth i gysylltu ar unwaith. 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.