Aberteifi: Dechrau ymgynghoriad ar gynllun rheoli perygl llifogydd
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi lansio ymgynghoriad ar gynllun i leihau'r perygl llifogydd llanw ar gyfer 90 o gartrefi ac adeiladau yn Aberteifi.
Fe fydd gan bobl leol gyfle i fynegi eu barn ar y cynlluniau cyn i CNC wneud cais am ganiatâd cynllunio.
Bydd y cyfnod ymgynghori yn dod i ben ar ddydd Llun 18 Mai.
Dywedodd CNC: “Mae llifogydd llanwol wedi achosi effeithiau sylweddol mewn rhannau o'r dref yn y gorffennol, gyda llanw uchel yn gwthio dŵr ar ffyrdd, i mewn i gartrefi a busnesau lleol.
“Gyda lefelau'r môr yn codi a newid yn yr hinsawdd yn cynyddu'r tebygolrwydd o ddigwyddiadau llanwol mwy, mae glan ogleddol Afon Teifi yn wynebu risg gynyddol.
“Mae tua 90 o gartrefi a busnesau yn yr ardal hon yn arbennig o agored i ddifrod, a heb weithredu, disgwylir i lifogydd ddigwydd yn fwy aml a dod yn fwy difrifol yn y blynyddoedd i ddod.”
Yn eu cynlluniau arfaethedig, mae CNC yn cynnig adeiladu wal newydd ar hyd yr afon i leihau’r risg i’r dref rhag llifogydd yn y tymor hir.
Byddai'r cynllun yn cryfhau glan yr afon ac yn ychwanegu mannau cyhoeddus newydd ar hyd y Strand, meddai CNC.
Dywedodd Rheolwr y Prosiect, Bethan Hill: "Rydyn ni'n gwybod pa mor bwysig yw lleihau'r risg o lifogydd llanwol i bobl Aberteifi. Gall llifogydd llanwol achosi pryder gwirioneddol, difrod ac aflonyddwch, ac rydym am leihau'r risg o hyn ar gyfer y dyfodol.
"Rydym yn gobeithio y bydd trigolion, busnesau, defnyddwyr yr afon a grwpiau cymunedol yn defnyddio'r cyfle hwn i rannu eu barn a helpu i lywio dyluniad y cynllun rheoli perygl llifogydd pwysig hwn ar gyfer y dref yn y dyfodol.
"Mae'r ymgynghoriad cyn cynllunio hwn yn rhoi cyfle i'r cyhoedd edrych ar y dyluniadau arfaethedig, gofyn cwestiynau a dweud wrth CNC beth sy'n bwysicaf iddyn nhw."
Sut i weld y cynlluniau?
Gall pobl gymryd rhan yn yr ymgynghoriad mewn sawl ffordd:
Mae'r holl gynlluniau, lluniau a dogfennau ar gael yn ddigidol ar dudalen we bwrpasol CNC.
Mae dogfennau ar gael yn Llyfrgell Aberteifi hefyd.
Fe fydd sesiwn galw heibio gyhoeddus ddydd Mercher 13 Mai 2026, rhqng 13:00 a 19:00 yn Ystafell y Tŵr, Castell Aberteifi.
Daw’r ymgynghoriad i ben ym mis Mai ac ar ôl hynny, fe fydd CNC yn crynhoi sut mae adborth y cyhoedd wedi'i ystyried wrth ddylunio'r cynllun cyn cyflwyno cais cynllunio llawn i'r awdurdod cynllunio lleol.
Llun: Cyfoeth Naturiol Cymru