Yr A55 ar gau i’r ddau gyfeiriad yn dilyn digwyddiad ger Abergele

A55 Abergele

Mae ffordd yr A55 ar gau i'r ddau gyfeiriad ger Abergele yn Sir Conwy o ganlyniad i "ddigwyddiad heddlu".

Dywedodd Heddlu’r Gogledd bod y ffordd ar gau wrth iddyn nhw ddelio gyda'r digwyddiad.

Dywedodd asiantaeth Traffig Cymru fod y ffordd ar gau i'r ddwy ffordd rhwng Cyffordd 23a Pensarn a Chyffordd 24 Abergele.

Mae ffordd yn Abergele hefyd ar gau yn gysylltiedig gyda’r digwyddiad.

Mae’r llu wedi rhybuddio teithwyr i osgoi’r ardal.

Mewn datganiad dywedodd y llu: Sylwch fod y ddwy ffordd ar yr A55 ar gau ar hyn o bryd yn Abergele oherwydd digwyddiad parhaus.

"Mae Rhodfa Dundonald yn Abergele ar gau hefyd.

"Ceisiwch osgoi'r ardal a defnyddio llwybrau eraill lle bo modd.

"Rydym yn ymwybodol o'r oedi a achosir gan hyn ac yn diolch i'r cyhoedd am eu hamynedd a'u dealltwriaeth."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.