Môn: Cyhuddo dyn 31 oed wedi i dacsi gael ei yrru i'r cyfeiriad anghywir ar yr A55

Yr A55 ger Ceargybi

Mae dyn 31 oed wedi cael ei gyhuddo wedi i dacsi gael ei yrru i'r cyfeiriad anghywir ar yr A55 ar Ynys Môn nos Lun.

Mae Darragh O’Grady o Iwerddon wedi ei gyhuddo o achosi anaf difrifol drwy yrru yn beryglus, gyrru yn beryglus a throseddau gyrru eraill. 

Mae hefyd wedi cael ei gyhuddo o ddwyn a thwyll drwy gynrychiolaeth ffug. 

Cafodd tacsi ei ddwyn o Gaergybi ddydd Llun, ac ychydig yn ddiweddarach, roedd y tacsi yn rhan o wrthdrawiad gyda seiclwr ar Ffordd Llundain yn y dref. 

Yna, fe aeth y tacsi ymlaen i'r A55 gan deithio i'r cyfeiriad anghywir. 

Fe wnaeth swyddogion lwyddo i stopio'r cerbyd yn ddiogel ar yr A55 ar ôl cau'r ffordd. 

Cafodd O'Grady ei arestio ac mae'n parhau yn y ddalfa, ac fe fydd yn ymddangos yn Llys Ynadon Caernarfon ddydd Iau. 

Dywedodd Heddlu'r Gogledd nad oes tystiolaeth ar hyn o bryd i awgrymu fod y digwyddiadau nos Lun wedi cael eu ffilmio gyda'r pwrpas o'u huwchlwytho ar gyfryngau cymdeithasol. 

Ychwanegodd y llu fod yr ymchwiliad yn dal i fynd yn ei flaen, gan annog y cyhoedd i beidio â dyfalu ar fanylion y digwyddiad na'r cymelliannau y tu ôl iddo. 

Mae'r heddlu yn annog unrhyw un â gwybodaeth i gysylltu â nhw gan ddefnyddio'r cyfeirnod O140476. 

'Eithriadol o ddychrynllyd'

Mewn datganiad ar Facebook ddydd Mawrth, dywedodd perchennog cwmni tacsis Tacsi Zoe ar yr ynys fod un o gerbydau'r cwmni wedi cael ei ddwyn, ond nad oedd un o'i gyrwyr hi'n rhan o'r digwyddiad ar yr A55:

"Dwi wedi cael fy nghlymu i mewn i'r digwyddiad, ac fe fyddai llawer yn cytuno bod y sefyllfa gyfan wedi bod yn un eithriadol o ddychrynllyd a thrawmatig.

"Byddwn i'n hoff o ddweud yn glir NAD un o'm gyrwyr i sy'n gyfrifol am hyn.

"Diolch yn fawr i holl swyddogion yr heddlu am eu hymateb cyflym i'r sefyllfa," meddai.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.