Newyddion S4C

Pobl ar draws Cymru yn nodi diwrnod Owain Glyndŵr

16/09/2022

Pobl ar draws Cymru yn nodi diwrnod Owain Glyndŵr

Mae nifer o bobl ar draws Cymru wedi bod yn cofio am Owain Glyndŵr ddydd Gwener, diwrnod sy'n nodi dechrau gwrthryfel Owain Glyndŵr yn 1400.

Yng Nghorwen daeth degau at ei gilydd yng nghysgod cerflun o Owain Glyndŵr.  Mae gan y mab darogan gysylltiadau agos â’r ardal.

Er bod yr orymdaith swyddogol wedi ei chanslo, er parch i’r Frenhines Elizabeth II roedd rhai yn teimlo bod rhaid dathlu dydd Glyndŵr.

"I ddathlu Dydd Owain Glyndŵr, o’n i yna yn dynodi un o ddiwrnodau pwysica’ yn hanes Cymru, a dwi ddim yn gweld pam ddylsai neb allu canslo diwrnod hanesyddol felly," meddai un oedd ar yr orymdaith. 

Cafodd Owain Glyndŵr ei goroni yn dywysog Cymru yn 1404  mewn seremoni ym Machynlleth, hynny tra bod ei wrthryfel yn erbyn coron Lloegr ar ei anterth.

Yn ogystal â’r digwyddiad yma yng Nghorwen mae digwyddiadau eraill wedi cael eu cynnal ar hyd a lled Cymru hefyd i gofio am Owain Glyndŵr.

Roedd disgyblion Ysgol y Felinheli yng Ngwynedd, fel mewn sawl ysgol arall, yn dathlu Owain Glyndŵr ddydd Gwener.

Fe aeth disgyblion i’r ysgol yn gwisgo dillad coch a melyn ac yn ôl Sioned Jones, Dirprwy Bennaeth yr ysgol, mae'n "fwy pwysig nag erioed efo’r cwricwlwm newydd i ddysgu am hanes Cymru".

“Mae o’n bwysig i’r plant wybod am gymeriadau sydd wedi bod 600 mlynedd yn ôl yn ogystal â’r rhai sydd yn fyw rŵan," meddai.

“Mae’r plant wedi dod â’u baneri, a dathlu brwydr Owain Glyndŵr a be’ na’th o i ni dros Gymru."

Yn dilyn marwolaeth ei fam y Frenhines Elizabeth II mi gyhoeddodd y brenin newydd fod teitl Tywysog Cymru yn cael ei etifeddu gan ei fab, Y Tywysog William.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.