Tro pedol cwmni Center Parcs dros gau ar ddydd angladd y Frenhines
Mae cwmni gwyliau Center Parcs wedi cyhoeddi tro pedol ar gynlluniau i gau ar ddiwrnod angladd y Frenhines.
Yn wreiddiol, roedd Center Parcs wedi gofyn i gwsmeriaid adael am y diwrnod ddydd Llun fel ffordd o ddangos parch tuag at y Frenhines ac er mwyn caniatáu i staff “gefnogi ein Brenhines ar ei thaith olaf”.
Mewn datganiad ddydd Mawrth, dywedodd y cwmni y byddai pob ymwelydd fyddai'n cael ei effeithio yn derbyn e-bost i egluro eu dewisiadau.
Roedd hyn yn cynnwys ad-daliad llawn os oedd gwesteion am ganslo eu gwyliau.
Ond byddai'r rhai sydd hanner ffordd trwy wyliau yno yn cael eu gorfodi i adael a threulio'r nos yn rhywle arall neu fynd adref yn gynnar.
Guests who were due to arrive on Monday 19 September should not travel, we will reopen on Tuesday 20 September to welcome guests. All impacted guests will receive an email from us today. Please visit our website for additional information https://t.co/ChXUSDsny8 2/2
— Center Parcs UK (@CenterParcsUK) September 13, 2022
Daw’r tro pedol wedi i gwsmeriaid gwyno ar y cyfryngau cymdeithasol. Dywedodd rhai nad oedd modd cysylltu yn uniongyrchol gyda’r cwmni dros y ffôn a bod e-byst yn bownsio’n ôl.
Disgrifiodd un cwsmer y penderfyniad fel un "ofnadwy" sydd wedi ei gadael yn "ddigalon iawn".
Erbyn hyn mae'r cwmni wedi newid y penderfyniad gwreiddiol. Ni fydd yn ofynnol i westeion adael y parciau gwyliau ddydd Llun.
Mewn datganiad dywedodd y cwmni: “Mae mwyafrif llethol o’n gwesteion naill ai i fod i gyrraedd neu adael ddydd Llun 19 Medi.
“Fodd bynnag, rydyn ni wedi adolygu ein safbwynt ynglŷn â’r nifer fach iawn o westeion sydd ddim i fod i adael ddydd Llun, a byddwn ni’n caniatáu iddyn nhw aros yn ein pentrefi yn hytrach na gorfod gadael a dychwelyd ddydd Mawrth.
"Bydd y pentrefi yn parhau ar gau ddydd Llun, a byddwn yn cynnig gostyngiad am y diffyg cyfleusterau sydd ar gael y diwrnod hwnnw."
Mae gan y cwmni bum safle yn y DU: Elveden Forest, Suffolk; Coedwig Longleat, Wiltshire; Coedwig Sherwood, Swydd Nottingham; Coedwig Woburn, Swydd Bedford; a Choedwig Whinfell, Cumbria.