Teyrnged i ddyn 'caredig, ystyrlon a chariadus' a gafodd ei ladd yng Nghasnewydd

13/09/2022
Richard Thompson

Mae teulu dyn 44 oed a gafodd ei ladd yng Nghasnewydd wedi rhoi teyrnged iddo. 

Bu farw Richard Thompson wedi iddo gael ei ddarganfod yn anymwybodol gan yr heddlu mewn eiddo yn Rhodfa Tewkesbury ar 31 Awst. 

Mae dyn 33 wedi'i gyhuddo o lofruddio ac fe fydd yn ymddangos yn Llys Ynadon Casnewydd maes o law. 

Wrth roi teyrnged iddo, dywedodd teulu Mr Thompson ei fod yn ddyn "caredig, ystyrlon a chariadus." 

“Roedd cymaint o bobl yn ei garu, yn arbennig ei deulu a’i ffrindiau. Roedd y math o berson a fyddai’n rhoi ei bunt olaf i helpu rhywun.

“Byddwn yn colli synnwyr digrifwch Richard, ei bersonoliaeth byrlymus a’i chwerthiniad heintus, a oedd yn rhoi gwên ar wyneb pawb, hyd yn oed pobl oedd ddim yn ei adnabod.

“Fel teulu, mae colli Richard wedi torri ein calonnau, a gofynnwn am breifatrwydd er mwyn cael galaru." 

Mae ymholiadau'r heddlu yn parhau ac maent yn awyddus i glywed gan unrhyw un a oedd mewn cysylltiad gyda Mr Thompson yn y dyddiau cyn ei farwolaeth.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.