Newyddion S4C

'O ni'n cysgu yn yr ysgol': Dyn yn diolch am gefnogaeth athrawon drwy blentyndod heriol

19/09/2022

'O ni'n cysgu yn yr ysgol': Dyn yn diolch am gefnogaeth athrawon drwy blentyndod heriol

Mae dyn 48 oed a oedd yn arfer cysgu yn ei ysgol wedi cael aduniad emosiynol gyda’i gyn-athrawon i ddiolch iddynt.

Ysgol Tryfan oedd yr un lle yr oedd John Barnett o Dregarth yn teimlo’n saff.

Doedd ei fywyd adref ddim yn hawdd meddai ar raglen S4C, Gwesty Aduniad.

“Do’n i’m yn licio bod adre. Doedd pethau ddim yn dda yna. Do’n i ddim yn teimlo’n saff. Do’dd stepfather a mam fi ddim yn dda efo fi. Dwi’n meddwl o’dd gan mam broblemau ei hun, ond bod y stepdad wedi adio i’r problemau," meddai.

Roedd John yn agos iawn at ei Daid ac eisiau byw efo fo.

“Do’n i’m yn nabod Dad felly o’dd Taid fatha Dad i fi.  O’n i’n edrych at Taid fatha arwr.  Na’th Social Services ddim gadael fi aros efo Taid; ro’n i’n gorfod mynd nôl i foster care.  Pobl foster care yn brilliant efo fi, ond efo Taid o’n i isio bod.”

Mi oedd yn rhaid i John symud o un cartref maeth i’r llall.

“Dwi di goro tyfu fyny yn ifanc a mae lot o 'mhlentyndod i di mynd,” meddai.

Ar ôl i’w Daid farw yn 1988 ‘survivio’ oedd John wedi hynny.

“O’n i’n cysgu yn yr ysgol. O’dd ‘na ddarn o’r giât yn Tryfan ro’n i’n medru ffitio drwyddo, ac ro’n i’n gwbod bod plismon methu dod trwy’r twll ‘na," ychwanegodd.

“Nes i dorri fewn i Ysgol Tryfan i nôl bwyd o’r cantîn, i survivo. Dwi’m yn proud o hynna.”

Mi oedd mynd i’r ysgol yn ddihangfa iddo, yn le iddo anghofio am ei broblemau adref.  Mae’n dweud bod dau athro wedi ei gefnogi, Eifion Jones a Rhys Llwyd.

Yn y rhaglen mae’n cwrdd â’r ddau eto, 30 mlynedd yn ddiweddarach.

“Dwi’m ‘di cael y chance i ddeud diolch i bobl ac ella bo’ nhw’m ‘di sylwi cymaint oeddan nhw ‘di gneud i helpu fi, ond dwi’n gwbod. Ti’m yn anghofio pobl sy’ ‘di gneud petha’ i chdi. Dwi’n teimlo ma’r athrawon ‘ma ‘di rhoi chance i fi mewn bywyd”.

Erbyn hyn mae gan John dri o blant ac mae wedi dyweddïo.  Ei obaith i'r dyfodol yw cadw mewn cysylltiad gyda'i ddau gyn-athro. 

Bydd 'Gwesty Aduniad' i'w weld nos Fawrth, Medi 20 am 21:00 ar S4C.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.