Newyddion S4C

Chris Kaba

Gwahardd heddwas o'i waith wedi iddo saethu dyn yn farw yn Llundain

The Guardian 13/09/2022

Mae un o swyddogion Heddlu'r Met a wnaeth saethu dyn heb arfau yn farw wedi cael ei wahardd o'i waith.

Bu farw Chris Kaba wedi iddo gael ei saethu gan heddlu yng ngogledd Llundain ddydd Llun diwethaf.

Roedd yn gyrru cerbyd a gafodd ei stopio gan swyddogion arfog wedi i gamera adnabod platiau cofrestru cerbydau nodi fod y car yn gysylltiedig â throsedd arfau tanio yn y dyddiau blaenorol.

Fe wnaeth cannoedd orymdeithio yn Llundain ddydd Sadwrn gan fynnu cyfiawnder i Mr Kaba, a oedd yn rapiwr o dde Llundain.

Dywedodd Dirprwy Gomosiynydd y Met, Amanda Pearson, bod "ein meddyliau yn parhau gyda theulu a ffrindiau Mr Kaba. Rydym yn ymwybodol pa mor bryderus yw hyn i gymunedau, yn enwedig o gymunedau Du, ac rydym yn diolch i'r rheiny sydd wedi bod yn gweithio'n agos gyda'n swyddogion lleol."

Darllenwch fwy yma

Llun teulu

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.