Marwolaeth Olivia Pratt-Korbel: Heddlu yn chwilio am arf ar gwrs golff

Mae Heddlu Glannau Mersi yn chwilio am y dryll a laddodd Olivia Pratt-Korbel ar gwrs golff.
Dywedodd yr heddlu eu bod nhw'n cynnal "archwiliad trylwyr" yng Nghlwb Golff West Derby dair wythnos wedi i'r ferch naw oed gael ei lladd yn ei chartref yn Lerpwl.
Dywedodd yr Uwch Dditectif Mark Kameen bod yr heddlu yn gweithio ddydd a nos er mwyn ceisio dod o hyd i'r sawl a oedd yn gyfrifol.
Mae naw dyn wedi eu harestio mewn cysylltiad â marwolaeth Olivia, ac mae pob un ohonyn nhw ar fechniaeth yr heddlu.
Darllenwch fwy yma.