Cytundeb newydd i Reolwr Cymru Rob Page
Cytundeb newydd i Reolwr Cymru Rob Page
Mae Rob Page wedi arwyddo cytundeb newydd sy'n golygu y bydd yn parhau yn Rheolwr Tîm Pêl-droed dynion Cymru tan 2026.
Cafodd Page ei benodi yn rheolwr dros dro ym mis Tachwedd 2020, wedi i Ryan Giggs gamu o'r neilltu ar ôl cael ei gyhuddo o ymosod ar ei gyn-gariad a'i chwaer.
Wedi dwy flynedd gyda'r garfan dan-21, fe ddaeth Rob Page yn rheolwr dynion Cymru, ac ers hynny mae wedi mwynhau cyfnodau llwyddiannus.
Llwyddodd i arwain Cymru i rownd 16 olaf Ewro 2020 a hefyd i grŵp A Cynghrair y Cenhedloedd UEFA.
Bu hefyd yn rhan o hanes, wrth i Gymru ennill eu lle yng Nghwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958.
Mae'r cytundeb newydd yn golygu y bydd Page yn aros wrth y llyw ar gyfer Ewro 2024 a'r ymgyrch ragbrofol ar gyfer Cwpan y Byd 2026.
Yn dilyn y newyddion, dywedodd Rob Page ei fod yn "anrhydedd enfawr i reoli fy ngwlad, braint fwyaf fy mywyd.
"Rwy’n edrych ymlaen at yr her dros y pedair blynedd nesaf, gan ddechrau gyda'n Cwpan y Byd cyntaf ers 64 mlynedd.
"Rwy’n gobeithio y gallwn ni roi gwen ar wynebau ein cefnogwyr ym mis Tachwedd ac adeiladu ar y llwyddiant trwy gyrraedd mwy o bencampwriaethau EURO a Chwpan y Byd yn y dyfodol.”
Mae newyddiadurwr BBC Cymru a gynrychiolydd Cymru ar bodlediad In Soccer we Trust, Iolo Cheung, yn dweud bod y penderfyniad yn rhoi sicrwydd i'r garfan cyn Cwpan y Byd.
"Mae'n dipyn o ryddhad dwi'n siŵr i gefnogwyr, y Gymdeithas ac i Rob Page ei hun achos mae o'n benderfyniad oeddan ni wedi disgwyl i'w weld, ond yn sicr mae hwn yn rhoi ryw fath o sicrwydd i'r tîm yn mynd 'mlaen i Gwpan y Byd."
Yn dilyn y penodiad, bydd gan Rob Page fwy o ryddid i newid ei dîm rheoli, ond nid yw Mr Cheung yn meddwl bydd Page yn newid llawer.
"Mi fydd 'na ryw faint o ryddid iddo fo ddod â'i staff ei hun i mewn, ond mewn gwirionedd mae o 'di bod yn y rôl ers dwy flynedd rŵan ac mae o 'di gweithio reit dda iddo fo felly allai'm dychmygu fydd 'na lot o newid."
Llun: Asiantaeth Huw Evans