Wcráin: Adweithydd olaf gorsaf niwclear wedi cau lawr

Mae’r adweithydd olaf yng ngorsaf niwclear Zaporizhzhia yn Wcráin wedi cael ei gau lawr yn ôl y gweithredwyr y gwaith.
Roedd yr orsaf wedi cael ei datgysylltu o’r grid trydan wythnos yn ôl oherwydd ymladd yn yr ardal.
Roedd un adweithydd yn dal yn gweithio er mwyn cynnal y system oeri'r adweithydd olaf yn yr orsaf.
Dywedodd Energoatom, sy’n gweithredu’r orsaf fod llinellau trydan wedi eu hail gysylltu er mwyn i’r adweithydd gau lawr.
Darllenwch fwy yma.
Llun: Wochit