Y Brenin yn arwain teyrngedau i'r Frenhines Elizabeth II yn Yr Alban
Y Brenin yn arwain teyrngedau i'r Frenhines Elizabeth II yn Yr Alban
Mae'r Brenin Charles III a'r Frenhines Gydweddog wedi arwain teyrngedau i'r Frenhines Elizabeth II yn Yr Alban.
Fe arweiniodd y ddau orymdaith y tu ôl i arch y Frenhines Elizabeth II o Balas Holyrood i Gadeirlan St Giles.
Bu aelodau eraill o'r Teulu Brenhinol hefyd yn cerdded ar hyd y daith trwy Gaeredin.
Cafodd yr arch ei chludo i mewn i'r gadeirlan gyda Choron yr Alban arni, symbol o genedl yr Alban. Mae'r goron yn cael ei chadw yng Nghastell Caeredin.
Nos Lun, cafodd gwylnos ei chynnal gyda phedwar o blant y ddiweddar Frenhines yn cymryd rhan yn y ddefod.
Fe fydd yr arch yn aros yn y gadeirlan a'r cyhoedd yn cael mynediad i gerdded heibio'r safle o 17:00 ymlaen tan 17:00 ddydd Mawrth.
Mae swyddogion wedi rhybuddio y bydd tipyn o oedi oherwydd mesurau diogelwch llym. Mae cyfyngiadau ar ffonau symudol hefyd ac nid oes hawl tynnu lluniau neu recordiad o unrhyw fath.
Mae Downing Street hefyd wedi cyhoeddi y bydd munud o dawelwch nos Sul er cof am y Frenhines.
Bydd y funud o dawelwch yn dechrau am 20:00 ar y noson cyn angladd y Frenhines ar 19 Medi.