Senedd Cymru i gael eu galw i dalu teyrnged i'r Frenhines
Bydd Senedd Cymru'n cael eu galw er mwyn rhoi cyfle i aelodau roi teyrngedau i'w Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II ddydd Sul.
Mae Llywydd y Senedd, Elin Jones AS, wedi adalw'r aelodau ar gyfer sesiwn arbennig gyda'r teyrngedau i gael eu darlledu'n fyw ar senedd.tv.
Dywedodd y Llywydd bod "y Senedd hon yn mynegi ei thristwch dwys yn dilyn marwolaeth Ei Mawrhydi Y Frenhines ac yn estyn ei chydymdeimlad diffuant i Ei Fawrhydi Y Brenin ac Aelodau eraill o’r Teulu Brenhinol.
"Rydym yn cydnabod ymrwymiad parhaus Ei Mawrhydi i wasanaeth a dyletswydd cyhoeddus, gan gynnwys y gefnogaeth a roddodd i nifer o elusennau a sefydliadau yng Nghymru, a’i chysylltiad ar hyd ei hoes â Chymru a’i phobl."
Yn sgil y farwolaeth, mae holl weithgareddau'r Senedd wedi eu gohirio yn ystod y cyfnod o alaru cenedlaethol, a bydd yr adeilad yn parhau ar gau i'r cyhoedd tan ar ôl yr Angladd Gwladol.
Mae baneri wedi eu gostwng y tu allan i holl adeiladau'r Senedd yng Nghaerdydd a Bae Colwyn.