Pwy oedd Charles I a Charles II?
Y Brenin Charles yw'r trydydd brenin i arddel yr enw Charles yn hanes y Teulu Brenhinol, ac yn dilyn marwolaeth Ei Mawrhydi Elizabeth II fe fydd yn cael ei gydnabod yn swyddogol fel Brenin Charles III.
Roedd Charles I a'i fab Charles II yn teyrnasu rhwng 1625 a 1685, ddeng mlynedd yn llai na theyrnasiad Elizabeth II. Dyma rhai o brif ddigwyddiadau'r 60 mlynedd pan roedd y ddau yn teyrnasu:
Charles I
Fe ddaeth Charles I yn frenin ar Loegr, Yr Alban a'r Iwerddon yn 1625.
Roedd yn credu mewn hawl dwyfol brenhinoedd i deyrnasu, ac roedd y gred yma, gyda'i ffydd Gatholig, yn amhoblogaidd yn ystod y cyfnod, gyda Seneddwyr yn ei gyhuddo o fod yn ormeswr.
Fe wnaeth llywodraeth y dydd geisio ffrwyno ei rymoedd, ac o ganlyniad fe ddechreuodd rhyfel cartref yn 1642 rhwng Seneddwyr a Brenhinwyr.
Yn dilyn tair blynedd o ryfela, cafodd Charles ei drechu yn 1645, ond ni wnaeth ildio i alwadau'r Seneddwyr am frenhiniaeth gyfansoddiadol.
O ganlyniad cafodd Charles ei ddienyddio yn 1649, yr unig frenin i gael ei ddienyddio yn hanes Prydain.
Cafodd y frenhiniaeth ei diddymu yn dilyn hyn ac fe ddaeth Lloegr yn weriniaeth o dan arweinyddiaeth Oliver Cromwell.
Charles II
Ymunodd Charles II gyda'i dad yn y brwydro yn ystod y rhyfel cartref, ond gadawodd Lloegr pan sylweddolodd bod colli'r rhyfel yn anochel. Symudodd i'r Hague yn 1649, sef yr un flwyddyn a phan gafodd ei dad ei ddienyddio.
Er bod Prydain wedi troi'n weriniaeth yn dilyn hynny, cafodd Charles ei goroni fel Brenin yr Alban yn Ionawr 1651.
Fe wnaeth Charles a'i gefnogwyr ymosod ar Loegr yn 1650, ond nid oedd yn llwyddiannus ac fe gafodd ei drechu ym Mrwydr Caerwrangon yn 1651.
Ni wnaeth ei elynion ddod o hyd i Charles cyn iddo ffoi i Ffrainc, ac fe arhosodd yn alltud yno am naw mlynedd.
Yn dilyn marwolaeth Oliver Cromwell yn 1658, roedd aflonyddwch sifil a milwrol yn Lloegr ac fe gafodd Charles ei wahodd i fod yn frenin yn 1660.
Fe welodd ei deyrnasiad gynnydd sylweddol mewn masnachu gyda India, Ynysoedd y Caribï, ac America.
Digwyddodd Tân Mawr Llundain yn ystod ei deyrnasiad hefyd, yn 1666.
Bu farw Charles II yn 54 oed ym mis Chwefror 1685, ac fe gafodd ei gladdu yn Abaty Westminster.