Marwolaeth y Frenhines: Beth sy'n digwydd nesaf?
09/09/2022
Fe fydd 10 diwrnod o alaru swyddogol a digwyddiadau yn dechrau ddydd Gwener yn dilyn marwolaeth y Frenhines Elizabeth II.
Yn dilyn ei marwolaeth, dywedodd ei mab, y Brenin Charles, ei bod yn "foment o dristwch dwys i mi ac i holl aelodau'r teulu."
Ei theyrnasiad oedd yr hiraf yn hanes y Teulu Brenhinol, a hi hefyd oedd arweinydd benywaidd hiraf unrhyw wladwriaeth mewn hanes.
Yn ystod y diwrnodau nesaf fe fydd y canlynol yn digwydd:
- Dydd 1 - Dydd Gwener 9 Medi - Bydd y Teulu Brenhinol yn gadael yr Alban a theithio i Lundain. Fe fydd y Brenin Charles III yn annerch y genedl.
- Dydd 2 - Bydd y Cyngor Esgyniad yn cyfarfod i benodi Charles yn frenin swyddogol ar y Deyrnas Unedig.
- Dydd 3 - Fe fydd y Brenin Charles yn dechrau ar daith swyddogol o amgylch gwledydd y Deyrnas Unedig.
- Dydd 4 - Lleoliad cyntaf taith y brenin fydd Gogledd Iwerddon, pan fydd yn derbyn cydymdeimladau swyddogol gan wleidyddion y dalaith. Yn Llundain fe fydd ymarferiadau yn cael eu cynnal wrth baratoi i gludo arch y Frenhines i Westminster.
- Dydd 5 - Mae arch y Frenhines yn gadael Palas Buckingham ac yn cael ei drosglwyddo i Neuadd Westminster.
- Dydd 6 - 9 Fe fydd arch y Frenhines yn gorwedd yn gyhoeddus yn Neuadd Westminster am dri diwrnod , fydd ar agor i'r cyhoedd am 23 awr y dydd.
- Dydd 7 - Fe fydd y Brenin Charles yn teithio ar ymweliad i Gymru. Fe fydd gwasanaethau i nodi ei ymweliad yng Nghadeirlan Caerdydd ac yn y Senedd.
- Dydd 10 ymlaen - Fe fydd angladd y Frenhines yn cael ei gynnal yn Abaty Westminster o fewn pythefnos i'w marwolaeth - nid yw'r union ddyddiad wedi ei gyhoeddi eto. Fe fydd yn ddiwrnod o alaru cenedlaethol, gyda dau funud o dawelwch yn cael ei gynnal am 12:00. Fe fydd gwasanaeth yn cael ei gynnal yng Nghapel San Sior yng Nghastell Windsor, cyn i'r Frenhines gael ei chladdu yng Nghapel Coffa Brenin Sior y VI. Bydd y cyfnod o alaru'r Teulu Brenhinol yn parhau am saith diwrnod ar ôl angladd y Frenhines.