Newyddion S4C

Argyfwng costau byw: Beth yw treth ffawdelw?

08/09/2022
Nwy

Yn sgil yr argyfwng costau byw a chynnydd sylweddol mewn biliau ynni, mae nifer o wleidyddion wedi bod yn sôn am dreth ffawdelw (windfall tax). 

Fe ddaeth y galwadau cyntaf am dreth ffawdelw mewn ymateb i'r cynnydd mewn biliau ynni gan y Blaid Lafur ym mis Ionawr. 

Bum mis yn ddiweddarach, fe wnaeth y Canghellor ar y pryd, Rishi Sunak, gyhoeddi treth ffawdelw gwerth £5 biliwn ar gyfer cwmnïau ynni. 

Yn fwy diweddar, mae Liz Truss wedi gwrthod galwadau gan y gwrthbleidiau i ariannu ei chynlluniau ynni newydd trwy dreth ffawdelw. 

Felly, beth yn union yw treth ffawdelw? 

Treth wahanol i'r arfer

Yn wahanol i drethi eraill fel TAW a threth incwm sydd yn cael eu talu gan bawb, mae treth ffawdelw yn targedu busnesau o fewn un sector penodol. 

Hefyd yn wahanol i drethi eraill, taliad un-tro yw treth ffawdelw yn lle treth sydd yn cael ei dalu pob blwyddyn. 

Y rheswm am hyn yw fod treth ffawdelw yn targedu busnesau sydd wedi creu elw sylweddol am resymau sydd tu hwnt i'w rheolaeth. 

Yn achos biliau ynni, dydy cwmnïau nwy ac olew ddim yn gyfrifol am yr elw anferth maen nhw'n ei dderbyn ar hyn o bryd.

Mae'r cwmnïau hyn yn elwa o gynnydd mewn galw yn dilyn y pandemig a phryderon dros gyflenwadau oherwydd y gwrthdaro yn Wcráin. 

Mae cefnogwyr treth ffawdelw yn dadlau y dylai'r cwmnïau hyn dalu mwy o dreth er mwyn ariannu rhagor o gymorth i bobl sydd teimlo'r esgid yn gwasgu. 

Yn achos treth ffawdelw Rishi Sunak, roedd y dreth yn rhan o becyn o gymorth gwerth £15 biliwn i helpu pobl gyda'u biliau ynni, oedd yn cynnwys taliad o £400 i bob cartref. 

Ond mae gwrthwynebwyr y polisi yn credu bod codi rhagor o drethi yn darbwyllo cwmniau rhag buddsoddi yn y DU. 

Wrth gyhoeddi ei chynlluniau ynni ddydd Iau, dywedodd Liz Truss "nid oes modd tyfu'r economi trwy drethi." 

Yn hytrach na threthu fe fydd ei chynllun yn cael ei ariannu gan fencythiadau. Y gobaith yw y bydd trethi is yn tyfu'r economi, gan godi arian ar gyfer y polisi yn y dyfodol. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.