Y Teulu Brenhinol wedi teithio i Balmoral yn sgil pryderon am iechyd y Frenhines
Y Teulu Brenhinol wedi teithio i Balmoral yn sgil pryderon am iechyd y Frenhines
Mae aelodau'r Teulu Brenhinol wedi teithio i Balmoral yn sgil pryderon am iechyd y Frenhines.
Cyhoeddodd Palas Buckingham ddydd Iau bod y Frenhines wedi ei gosod dan oruchwyliaeth feddygol wedi i feddygon leisio pryderon am gyflwr ei hiechyd.
Mae pedwar plentyn y Frenhines yn ogystal â'r Tywysog William wedi teithio i'r Alban, gyda'r Tywysog Harry ar ei ffordd hefyd.
Mae pobl wedi bod yn ymgynnull tu allan i giatiau Palas Buckingham yn ogystal ag yn Balmoral yn sgil y pryder am ei hiechyd.
Dywedodd Palas Buckingham mewn datganiad ddydd Iau: "Ar ôl arsylwi y bore ma, mae doctoriaid y Frenhines yn gofidio am ei hiechyd ac yn argymell ei bod hi'n aros dan oruchwyliaeth feddygol.
"Mae'r Frenhines yn parhau i fod yn gyfforddus yn Balmoral."
A statement from Buckingham Palace:https://t.co/2x2oD289nL
— The Royal Family (@RoyalFamily) September 8, 2022
Roedd y Frenhines wedi derbyn ymddiswyddiad Boris Johnson fel prif weinidog ac wedi gofyn i Liz Truss ffurfio llywodraeth a dod yn brif weinidog y Deyrnas Unedig yn Balmoral ddydd Mawrth.
Ni wnaeth ymweld â Gemau'r Ucheldir yn yr Alban ar ddechrau mis Medi oherwydd cyflwr ei hiechyd.
The whole country will be deeply concerned by the news from Buckingham Palace this lunchtime.
— Liz Truss (@trussliz) September 8, 2022
My thoughts - and the thoughts of people across our United Kingdom - are with Her Majesty The Queen and her family at this time.
Mewn neges ar gyfryngau cymdeithasol, dywedodd y prif weinidog Liz Truss fod yr holl wlad yn bryderus iawn am y newyddion o Balas Buckingham, a bod ei meddyliau a meddyliau pobl ar draws y Deyrnas Unedig gyda'r Frenhines a'i theulu ar yr adeg yma.
Dywedodd arweinydd y Blaid Lafur, Keir Starmer, ei fod yn bryderus iawn am y newyddion o'r Palas ac roedd ei feddyliau gyda'r Frenhines a'i theulu.
Mae prif weinidog Cymru, Mark Drakeford wedi anfon ei ddymuniadau gorau i'r Frenhines ar Twitter, gan ddweud fod ei ddymuniadau "ar ran pobl Cymru."
Pryderus i glywed y newyddion o Balas Buckingham.
— Mark Drakeford (@PrifWeinidog) September 8, 2022
Rwy'n anfon fy nymuniadau gorau at Ei Mawrhydi a'i theulu ar ran pobl Cymru.