Cymru yn cyhoeddi carfan rygbi ar gyfer Cwpan y Byd saith bob ochr
Mae hyfforddwr rygbi saith bob ochr Cymru, Richie Pugh, wedi cyhoeddi ei garfan ar gyfer Cwpan y Byd yn Ne Affrica.
Bydd Cymru yn chwarae De Korea ar 9 Medi, ac os ydynt yn fuddugol byddent yn chwarae yn erbyn Ffiji ar 10 Medi.
Ond os ydy Cymru yn colli bydd eu taith yng Nghwpan y Byd yn dod i ben.
Luke Treharne fydd capten Cymru, ac mae enwau cyfarwydd eraill fel Iwan Pyrs Jones ac Iestyn Rees wedi eu cynnwys yn y garfan hefyd.
Dyw Cymru ddim yn gwybod llawer am ei gwrthwynebwyr, De Korea yn ôl eu capten, ond maen nhw'n disgwyl gêm anodd.
"Maen nhw'n dîm sydd wedi bod yn perfformio'n dda yng Ngemau Asia. Roedden nhw wedi danfon tîm cymharol ifanc i'r gemau rhagbrofol mis diwethaf, felly doedden ni ddim wedi dysgu llawer amdanyn nhw.
"I ni ddim yn gwybod llawer amdanynt ond mae'r clipiau sydd gyda ni yn dangos eu bod nhw'n gallu bygwth unrhyw le ar y cae. Felly mae angen ni ganolbwyntio arnyn nhw cyn hyd yn oed meddwl am Ffiji."
Y garfan:
Luke Treharne
Iestyn Rees
Morgan Sieniawski
Chris Smith
Tom Brown
Owen Jenkins
Callum Carson
Iwan Pyrs Jones
Morgan Williams
Cole Swannack
Kane Teear-Bourge
Ewan Rosser