Liz Truss yn amddiffyn ei chynllun economaidd yn ei sesiwn gwestiynau gyntaf i'r prif weinidog
Mae Liz Truss wedi amddiffyn ei chynllun economaidd ac yn addo i "symud Prydain yn ei flaen" yn ei sesiwn gwestiynau gyntaf yn San Steffan ddydd Mercher.
Fe wnaeth Keir Starmer ofyn i'r prif weinidog newydd os oedd hi'n gwrthwynebu treth gorelw ac os mai peidio cynyddu treth gorfforaeth oedd y peth cywir i'w wneud.
Dywedodd Ms Truss: "Dwi yn erbyn treth gorelw. Dwi'n meddwl ei fod yn anghywir i ddarbwyllo cwmnïau i beidio fod eisiau buddsoddi yn y Deyrnas Unedig pan ein bod angen tyfu economi'r DU.
"Y tro diwethaf i ni ostwng treth gorfforaeth roeddwn wedi denu mwy o ardrethiad i'r trysorlys oherwydd roedd mwy o gwmnïau eisiau lleoli eu hunain ym Mhrydain."
Ni aeth i unrhyw fanylder am ei chynllun ynni, ond roedd hi'n cydnabod bod pobl yn dioddef gyda'r cynnydd mewn costau byw, gan ychwanegu y byddai'n cyhoeddi mwy o fanylion ddydd Iau.
Bydd Liz Truss hefyd yn cadeirio ei chyfarfod cabinet cyntaf ddydd Iau.
Cafodd aelodau o’r cabinet newydd eu cyhoeddi rhai oriau ar ôl penodiad Liz Truss yn brif weinidog.
Dyma rhai o'r aelodau allweddol:
Canghellor - Kwasi Kwarteng
Ysgrifennydd Cartref - Suella Braverman
Ysgrifennydd Tramor - James Cleverly
Ysgrifennydd Iechyd a dirprwy brif weinidog - Therese Coffey
Ysgrifennydd Addysg - Kit Malthouse
Ysgrifennydd Amddiffyn - Ben Wallace
Canghellor Dugiaeth Caerhirfryn, yn gyfrifol am Swyddfa'r Cabinet - Nadhim Zahawi
Ysgrifennydd Busnes, ynni a strategaeth ddiwydiannol - Jacob Rees-Mogg
Ysgrifennydd Diwylliant - Michelle Donelan
Ysgrifennydd Gwastadhau- Simon Clarke
Ysgrifennydd yr Amgylchedd - Ranil Jayawardena
Ysgrifennydd Trafnidiaeth - Anne-Marie Trevelyan
Ysgrifennydd Cyfiawnder - Brandon Lewis
Ysgrifennydd Cymru - Syr Robert Buckland
Ysgrifennydd Gogledd Iwerddon - Chris Heaton-Harris
Ysgrifennydd yr Alban - Alister Jack