Canslo rêf anghyfreithlon mewn hen storfa fomiau yn Llanberis
Mae Heddlu'r Gogledd wedi rhybuddio pobl i gadw draw o hen storfa fomiau yng Ngwynedd, yn dilyn adroddiadau fod rêf i fod i gael ei chynnal ar y safle dros y penwythnos sydd i ddod.
Roedd swyddogion wedi clywed fod y rêf anghyfreithlon i fod i ddigwydd ar safle Glyn Rhonwy yn Llanberis.
Roedd y digwyddiad di-drwydded wedi ei hysbysebu ar y cyfryngau cymdeithasol fel un oedd i ddigwydd ar ddydd Sadwrn, 10 Medi, ond ers hynny mae wedi cael ei ganslo.
Bellach mae Heddlu Gogledd Cymru a Chyngor Gwynedd yn rhybuddio pobl am beryglon y safle, ac yn galw ar bobl i gadw draw er mwyn eu diogelwch eu hunain.
Dywedodd yr Arolygydd Arwel Hughes: “Rwy’n ymwybodol o neges cyfryngau cymdeithasol sy’n cael ei rannu ar lwyfannau fel Tik Tok, Instagram a Snapchat am rêf a gynlluniwyd oedd i fod i ddigwydd ar hen safle storfa fomiau Glyn Rhonwy yn Llanberis.
“Roedd y digwyddiad cerddoriaeth didrwydded yn cael ei hyrwyddo o dan y faner ‘Prosiect X Llanberis’ ac wedi’i anelu at blant 15 oed a hŷn.
“Does dim angen dweud bod digwyddiad o’r natur hwn yn anghyfreithlon ac yn hynod beryglus, o ystyried y peryglon niferus a fyddai’n dod yn sgil ei gynnal mewn lleoliad o’r fath.
“Mae’r unigolyn y tu ôl i’r cyfrif Tik Tok wedi’i nodi ac mae swyddogion wedi ymweld ag ef, ac rwyf am egluro na fydd y digwyddiad bellach yn cael ei gynnal ar y safle."
Ychwanegodd yr Arolygydd Hughes: “Fe aeth yr hyn a ddechreuodd fel jôc yn gyflym allan o law ac mae’r dudalen bellach wedi’i diweddaru ac wedi’i dileu ers hynny o’r cyfryngau cymdeithasol.
“Byddwn yn gofyn yn awr i rieni gyfleu’r neges hon i’w plant er mwyn sicrhau ei bod yn cael ei rhannu gyda chymaint o bobl â phosib.”