Protestwyr amgylcheddol yn gludo'u hunain i gadair llefarydd Tŷ’r Cyffredin

Mae grŵp o brotestwyr amgylcheddol wedi cynnal protest yn siambr Tŷ’r Cyffredin, gan ludo'u hunain i gadair llefarydd y Tŷ.
Dywedodd y grŵp Gwrthryfel Dyfodiant fod 50 o aelodau wedi cymryd rhan yn y brotest, gyda rhai hefyd yn cloi eu hunain i'r giatiau tu allan i San Steffan.
Fel rhan o'r brotest, mae'r grŵp yn galw am "gynulliad dinesig" er mwyn trafod yr argyfwng hinsawdd.
Dywedodd llefarwyr o Dŷ’r Cyffredin a Heddlu'r Met eu bod yn ymwybodol o'r protest ac yn ymateb i'r sefyllfa.
Darllenwch fwy yma.