Tymor newydd yn cychwyn yn y Genero Adran Premier
Mae Uwch Gynghrair merched Cymru, y Genero Adran Premier, yn dychwelyd y penwythnos hwn.
Bydd wyth tîm yn cystadlu eleni, a bydd y pedwar uchaf ar ddiwedd y tymor yn brwydro i ennill y gynghrair mewn gemau ail-gyfle, tra bydd y pedwar isaf yn brwydro i ennill yr Adran Plate.
Y Fenni
Y Fenni bydd y tîm newydd yn y gynghrair eleni wedi iddyn nhw ennill Genero Adran y De llynedd. Er iddynt ond gollwng pedwar pwynt i gyd tymor diwethaf, bydd camu fyny i'r Adran Premier yn anodd iddyn nhw.
Mae'r Fenni yn glwb sydd yn ymddiried llawer yn eu chwaraewyr ifanc, ac mae nifer o chwaraewyr o dimau dan 16 ac 19 y clwb wedi gwneud ymddangosiad i'r tîm cyntaf yn barod.
Mae'r clwb wedi arwyddo nifer o chwaraewyr gan gynnwys rhai ifanc fel Scarlett Teague a Katie Williams, ond prif fwriad Y Fenni eleni bydd ceisio osgoi disgyn nôl lawr.
Aberystwyth
Roedd Aberystwyth wedi synnu pawb y llynedd trwy sicrhau lle yn y pedwar uchaf.
Nhw oedd yr unig dîm i gymryd pwyntiau oddi wrth Abertawe ddwywaith dros y tymor, a bydd merched Aber yn edrych i adeiladu ar lwyddiant llynedd y tymor hwn.
Cyn-hyfforddwr dynion Aberystwyth, Gavin Allen, sydd wrth y llyw erbyn hyn, ac mae ef wedi arwyddo chwaraewr dan 19 Cymru, Elen Valentine, eleni.
Mae Aber wedi cadw rhan fwyaf o garfan llynedd hefyd, a'r nod bydd adeiladu a cheisio dringo safleoedd y gynghrair unwaith yn eto.
Y Barri
Wedi iddyn nhw ailsefydlu haf diwethaf, roedd tymor 2021/22 yn anodd iawn i'r Barri.
Gorffennodd y clwb yn seithfed, yn osgoi disgyn i Adran y De ar ddiwrnod olaf y tymor diolch i fuddugoliaeth 2-1 yn erbyn Pontypridd.
Oedran cyfartalog carfan Y Barri llynedd oedd 18, ond eleni fe fydd gan y chwaraewyr ifanc brofiad o chwarae yn yr uwch gynghrair.
Yn ogystal, mae chwaraewr rhyngwladol Bermuda, Delia Ebbin, wedi aros gyda'r clwb. Bydd ei phrofiad hi yn hollbwysig wrth helpu'r chwaraewyr ifanc i ddatblygu a bod yn arweinydd ar y cae.
Caerdydd
Gorffennodd Caerdydd yn drydydd y llynedd, 11 pwynt tu ôl Abertawe yn y safle cyntaf.
Er hynny, enillodd Caerdydd Cwpan Cymdeithas Bêl-droed merched Cymru yn erbyn Met Caerdydd, felly nid oedd y tymor yn aflwyddiannus.
Gobaith y clwb eleni bydd ennill y gynghrair, a bydd eu chwaraewyr ifanc sydd wedi chwarae i dimau ieuenctid Cymru yn allweddol wrth geisio sicrhau hynny.
Mae Phoebie Pool a Lily Billingham wedi cynrychioli Cymru ar lefelau dan 17 ac 19, ac enillodd Billingham chwaraewr ifanc y tymor llynedd.
Met Caerdydd
Cafodd Met Caerdydd dymor llwyddiannus llynedd. Gorffennodd y clwb yn ail yn y gynghrair, enillodd eu hyfforddwr, Yzzy Taylor, hyfforddwr y tymor ac enillon nhw Dlws yr Adran Genero.
Roedd Met yn anlwcus i beidio ennill y gynghrair, roedden nhw wedi gorffen ond pedwar pwynt tu ôl i Abertawe.
Bydd y clwb yn anelu i ennill y gynghrair eleni, yn ogystal â cheisio ennill Tlws yr Adran Genero unwaith yn eto. Bydd y cymysgedd o chwaraewyr ifanc o'r academi a chwaraewyr profiadol yn rhoi llwyfan cryf i'r Met.
Pontypridd
Wedi iddyn nhw orffen yn bumed y llynedd ac ennill yr Adran Plate, bydd Pontypridd yn anelu at gyrraedd y pedwar uchaf eleni a chystadlu i ennill y gynghrair.
Yn ogystal ag ennill yr Adran Plate, cyrhaeddodd Pontypridd rownd cyn-derfynol Cwpan Cymdeithas Bêl-droed merched Cymru.
Mae'r clwb wedi arwyddo chwaraewyr ifanc sydd heb chwarae pêl-droed i dimau cyntaf eto, gan gynnwys Olivia Francis a Paige Ward, ond mae gan y clwb pob ffydd byddent yn gallu delio gyda gofynion y gynghrair.
Abertawe
Abertawe oedd pencampwyr y gynghrair llynedd, ac maen nhw newydd ddychwelyd o wlad Groeg yn dilyn gemau yng Nghynghrair y Pencampwyr merched.
Bydd y clwb yn creu hanes y penwythnos hwn pan fyddan nhw yn chwarae yn stadiwm tîm y dynion, stadiwm Swansea.com.
Er iddyn nhw golli yng Nghynghrair y Pencampwyr merched, bydd Abertawe yn gobeithio y gallen nhw ennill y gynghrair eto eleni a mynd un ymhellach trwy ennill cystadleuaeth cwpan hefyd.
Mae'r clwb wedi arwyddo Emily Freeman a Monet Legall dros yr haf, chwaraewyr addawol iawn bydd yn ategu at ddawn y garfan.
Y Seintiau Newydd
Roedd y Seintiau yn agos iawn i ddisgyn y llynedd, ond gorffennodd y clwb yn chweched yn y gynghrair.
Bydd y clwb yn anelu i wella ar y safle hynny eleni, a chystadlu gyda Pontypridd ac Aberystwyth i ennill lle yn y pedwar uchaf.
Mae'r amddiffynnwr Tia Lockey yn chwaraewr ifanc i gadw llygaid ar eleni. Mae hi newydd ennill lle yng ngharfan dan 16 Cymru a bydd chwarae pêl-droed tîm cyntaf yn rhoi profiad allweddol iddi hi wrth ddatblygu ei gyrfa.
Bydd Abertawe v Met Caerdydd yn fyw ar S4C ddydd Sul. Mae'r gic gyntaf am 16:15.