Arestio dyn ar ôl ceisio llofruddio Is-Arlywydd Yr Ariannin

Mae dyn wedi ei arestio wedi iddo geisio llofruddio Is-Arlywydd Yr Ariannin nos Iau.
Fe gafodd Cristina Fernandez de Kirchner ei bygwth tu allan i'w chartref yn Buenos Aires, ond ni chafodd ei hanafu ac ni chafodd unrhyw fwled ei saethu.
El video del arma contra @CFKArgentina pic.twitter.com/8j1xpMnPoe
— Lautaro Maislin (@LautaroMaislin) September 2, 2022
Dywedodd Arlywydd Yr Ariannin, Alberto Fernandez, bod y dyn wedi saethu ond na wnaeth y gwn danio.
Mae cannoedd o brotestwyr wedi'u casglu yn ddiweddar i gefnogi Ms Fernandez, sydd yn gyn-arlywydd y wlad, ac sydd ar hyn o bryd yn wynebu achos llys yn ei herbyn.
Darllenwch fwy yma.
Llun: Wikimedia Comm0ns