Teyrnged i feiciwr modur fu farw mewn gwrthdrawiad ger Aberhonddu
Mae teulu beiciwr 53 oed fu farw mewn gwrthdrawiad ger Aberhonddu dros y penwythnos wedi rhoi teyrnged iddo.
Bu farw Dean Kayes, oedd o Ferthyr Tudful yn wreiddiol, yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd ar yr A470 ger Llandyfalle am tua 17:00 ar 27 Awst.
Dywedodd ei deulu fod "Dean yn aelod hoff iawn o’n teulu, a bydd pawb ohonom yn ei golli’n fawr.
"Dechreuodd Dean feicio pan gafodd ei feic sgrialu cyntaf yn wyth oed. Taniodd hynny’r angerdd dros feicio modur a barhaodd drwy gydol ei oes."
Ychwanegodd i deulu fod Mr Kayes yn feiciwr modur profiadol gyda dros 40 mlynedd o brofiad.
"Yr oedd yn aelod uchel iawn ei barch o’r gymuned beicio modur leol yn Ne Cymru, a byddai’n aml yn mynd ar deithiau beicio modur dramor i Ffrainc, Sbaen a Phortiwgal gyda phobl o bob cwr o’r DU."
Dywedodd Sarjant Matthew Thomas o Uned Plismona’r Ffyrdd Heddlu Dyfed-Powys bod "ein cydymdeimladau dwysaf gyda theulu a ffrindiau Mr Kayes yn ystod y cyfnod anodd dros ben hwn."