Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr i adael ei rôl
01/09/2022
Fe fydd Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn gadael ei rôl ar ddiwedd y flwyddyn.
Mewn datganiad, mae Jo Whitehead yn dweud bod ei phenderfyniad i ymddeol o'r GIG "yn un personol".
Bydd ei hymadawiad yn golygu mwy o ansicrwydd i'r bwrdd wedi i'w gwasanaethau fasgwlar gael ei beirniadu gyda'r arolygydd iechyd yn dweud eu bod angen "gwella’n sylweddol".
Fe fydd yn gadael ei swydd ar 23 Rhagfyr 2022, sydd wedi bod yn "benderfyniad anodd" iddi.
Mae wedi bod yn y rôl ers mis Ionawr 2021.
Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi diolch i Ms Whitehead gan ychwanegu eu bod mewn "sefyllfa gryfach" yn sgil ei harweinyddiaeth.