Cyflwyno pigiadau atgyfnerthu Covid-19 o'r newydd yng Nghymru
Fe fydd y broses o gyflwyno pigiadau atgyfnerthu Covid-19 yng Nghymru yn dechrau ddydd Iau.
Preswylwyr a staff mewn cartrefi gofal fydd y rhai cyntaf i dderbyn y brechlyn, gyda'r gwahoddiadau yn cael eu rhoi yn nhrefn y rhai mwyaf agored i niwed.
Bydd pawb sy'n gymwys i dderbyn pigiad atgyfnrethu yn cael cynnig un erbyn diwedd mis Rhagfyr.
Y rhai fydd yn derbyn y brechlyn yw:
- Staff mewn cartrefi gofal i bobl hyn a rhai sydd yn byw yno
- Gweithwyr gwasanaethau iechyd a gofal
- Pobl dros 50 oed,
- Pobl rhwng pump a 49 oed sydd mewn grŵp risg clinigol neu sy'n dod i gyswllt cartref gyda phobl sydd ag imiwnedd isel
- Gofalwyr rhwng 16 a 49 oed
Mae'r llywodraeth wedi cadarnhau y bydd y brechlyn yn cael ei gynnig ochr yn ochr â brechlyn ffliw ac maen nhw'n gobeithio y bydd pobl yn derbyn y cynnig am y ddau frechlyn.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan bod y "brechlynnau wedi cael effaith enfawr ar gwrs y pandemig - maent wedi achub bywydau di-rif ac wedi rhoi’r rhyddid a’r hyder inni ailgychwyn ein bywydau.
"Byddwn yn cynnig rhaglen ffliw estynedig unwaith eto eleni, gydag 1.5 miliwn o bobl yn gymwys am frechiad am ddim. Byddwn yn annog unrhyw un sy’n gymwys i dderbyn eu gwahoddiad i helpu eu hunain."