Image

Mae'r gwasanaethau brys wedi eu galw i bier y Mwmbwls ger Abertawe wedi i adeilad fynd ar dân yno ddydd Mercher.
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn cynghori trigolion lleol i gau eu ffenestri ac aros o dan do am y tro oherwydd y tân.
Dywedodd y gwasanaeth fod criwiau o Dreforys, Y Tymbl, canol Abertawe, Port Talbot, Castell-nedd, Caerfyrddin a Cheredigion yn brwydro'r fflamau ar hyn o bryd.
Dywed Heddlu De Cymru fod Ffordd y Mwmbwls a nifer o lwybrau cerdded ar gau am y tro.
Mae'r RNLI wedi dweud wrth bobl i osgoi'r ardal ac i beidio cerdded ar y mynydd cyfagos.
Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.