Salon 'rhywedd niwtral' yn galw am fwy o leoliadau cynhwysol

Mae perchnogion siop trin gwallt niwtral o ran rhywedd yng Nghaerdydd yn galw ar siopau tebyg i fod yn fwy cynhwysol ledled Cymru.
Mae Wow Hair and Beauty Bar yng Nghaerdydd yn cynnig gofal gwallt niwtral o ran rhywedd ar gyfer pawb, beth bynnag fo’u hunaniaeth.
Mae’r salon, sydd ar Heol Pen-y-Lan yn y Rhâth wedi bod yn boblogaidd iawn ymhlith aelodau cymunedau LHDTC+.
Erbyn hyn, mae Mandie Rees - un o’r cyd-berchnogion - yn credu gall eu hesiampl nhw ysbrydoli busnesau eraill i gynnig menter debyg.
Dywedodd Mandie wrth ITV Cymru Wales, “Mae popeth rydym ni’n ei wneud yn benodol yn hollol ddirywedd.
“Mae nifer fawr o’n cwsmeriaid yn rhan o’r gymuned LHDTC+. Mae nifer fawr yn draws, felly maen nhw’n dod atom ni ar gyfer steilio cadarnhau rhywedd ar gyfer y gwallt a’u hewinedd, yn ogystal â’n gwasanaethau harddwch ac estheteg.
“Nid pawb sy’n perthyn i flwch penodol. Nid gwryw neu fenyw yw hunaniaeth pob un, sef beth fyddech chi’n ei gael mewn salonau penodol o ran rhywedd neu salonau neillryw.
“Mae gan bawb eu hunaniaeth eu hunain nawr.”
Dywedodd Paige Jones, sy’n berchen ar y salon gyda Mandie, fod Wow yn wahanol i salonau eraill wrth beidio â chysylltu steiliau gwallt â rhyweddau penodol.
“Rydym yn codi tâl am y gwasanaeth rydych chi’n ei gael, ddim eich rhywedd,” meddai.
“Felly, os y’ch chi’n cyflwyno eich hun fel menyw, ac yn dod mewn gyda beth fyddai’n cael ei ystyried fel toriad barbwr, byddech chi’n talu’r un peth â rhywun sy’n ystyried ei hun yn ddyn sydd eisiau cael ei wallt wedi’i dorri’n debyg.
“Mae’r un peth yn wir am bobl sy’n wryw gyda gwallt hir. Bydden nhw’n talu’r un pris â rhywun sy’n ystyried ei hun yn fenyw gyda gwallt hir.
Yn ogystal â chael effaith bositif ar y busnes ei hun, mae cwsmeriaid wedi cofleidio’r cyfle i ymweld â’r lleoliad cynhwysol.
“Mae’r ymateb wedi bod yn anhygoel. Rydym wedi cael cymuned fawr o bobl yn dod mewn,” meddai Paige.
“Mae’n debyg bod pawb yn gwerthfawrogi’r ffaith fod ganddyn nhw rywle lle gallen nhw fod yn nhw eu hunain, gan wybod ei bod yn lleoliad diogel.”
Dywedodd Jaime Wolfe, sy’n defnyddio’r salon: “Mae’n braf iawn cael rhywle sy’n parchu eich rhagenwau ac sydd ddim yn diffinio steiliau gwallt yn ôl rhywedd.
“Maen nhw’n parchu iechyd meddwl yn fawr hefyd, felly’n mae hi’n ddiogel iawn am y rhesymau hynny ac mae yna ymdeimlad positif iawn yma.”