
Busnesau twristiaeth yn lleisio eu pryderon am dreth newydd Llywodraeth Cymru

Busnesau twristiaeth yn lleisio eu pryderon am dreth newydd Llywodraeth Cymru
Mae 'na rybudd y bydd nifer o fusnesau sy'n ddibynnol ar dwristiaeth yn cau, os na fydd Llywodraeth Cymru yn dechrau gwrando ar bryderon o fewn y diwydiant.
Yn ôl Cynghrair Twristiaeth Cymru, mae trafodaethau ym Mae Caerdydd i gyflwyno ardoll twristiaeth yn pryderu eu haelodau.
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud bod trethi tebyg yn gyffredin ar draws y byd.
Mae Ogofau Dan-yr Ogof wedi cael eu haf gorau ers dechrau'r pandemig. Mae'r perchennog yn disgwyl y bydd lefelau incwm nol i 90% o gymharu â 2019.
Ond mae Ashford Price yn pryderu y bydd pethau fyth yr un peth, yn enwedig os bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno treth ar ymwelwyr.
"Os mai Cymru fydd yr unig wlad ddatganoledig i gyflwyno treth ar ymwelwyr ry' ni mewn trwbwl mawr. 'Da ni fel cwmni wedi cynnal arolygiadau, ac wedi gweld y byddai 70% o'r 2,000 o bobl a gafodd eu holi yn dweud y byddai treth o'r fath yn cael effaith ar ble fyddan nhw'n dewis mynd ar wyliau."

Fe ddwedodd Mr. Price bod y Llywodraeth yn dilyn polisiau "gwrth dwristiaeth".
"Gyda chwyddiant efallai yn cyrraedd 18% y flwyddyn nesa, fe allai'r penderfyniad yma fod yn drychinebus i'r diwydiant"
Mae Hywel Thomas yn berchennog ar barc carafanau yn Llangennech, Llanelli.
Mae e'n cytuno nad nawr yw'r amser i gyflwyno treth o'r fath. Mae pethau wedi bod ddigon anodd wedi dwy flynedd o'r pandemig, meddai.
Ar ben hynny, ma na gysgod arall dros ei barc carafanau bellach, sef yr argyfwng costau byw.
"Un o’n meters ni, o ni'n talu £4,000, os fydd pethau yn parhau fel mae e, y flwyddyn nesa mi fydd e'n £14,000. Mae rhaid i ni edrych ar ble allwn ni dorri costau. Dwi ddim eisiau codi'r pris ond sdim lot o ddewis gyda ni i fod yn onest.

"Ni'n lwcus mae'r bobl sy yma, mae'r rhan fwyaf ohonyn nhw wedi ymddeol. Ond ma'r cynnydd mewn prisiau yn effeithio ar bawb, felly ni yn gofidio am y flwyddyn nesa."
Gyda phwysau yn cynyddu ar fusnesau twristiaeth, ma'r corff sy'n cynrychioli busnesau proffesiynol o fewn y diwydiant yn dweud bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru ddechrau gwrando ar gwmnïau, neu bydd nifer yn penderfynu cau eu drysau.
Fe ddwedodd Suzy Davies, o Gynghrair Twristiaeth Cymru bod rhaid i weinidogion ddechrau gwrando ar bryderon cwmnïau o fewn y diwydiant.
"Hoffwn i glywed gan y Llywodraeth, ei bod nhw mwy 'na dim ond gwrando, ond yn cymeryd sylw o be mae'r busnesau yn dweud wrthynt. Ry' ni wedi clywed gan fusnesau bod nhw yn mynd i gau oherwydd nad ydyn nhw'n gwneud digon o arian neu maen nhw wedi cael digon o'r newidiadau sydd wedi eu cyflwyno gan y llywodraeth. Mae busnesau yn teimlo nad yw Llywodraeth Cymru yn gofalu amdanynt."
Mewn datganiad fe ddwedodd Llywodraeth Cymru,"
"Mae ardollau ymwelwyr yn gyffredin ledled y byd, gyda refeniw yn cael ei ddefnyddio er budd cymunedau, twristiaid a busnesau lleol. Rydym yn ymgynghori ar roi grym i awdurdodau lleol gyflwyno ardoll a byddwn yn ystyried y sylwadau i gyd fel rhan o'r broses ymgynghori yn yr hydref."