Newyddion S4C

Llifogydd Pacistan: Y Cenhedloedd Unedig yn lansio apêl ddyngarol

30/08/2022
Llifogydd Pacistan

Mae'r Cenhedloedd Unedig a Llywodraeth Pacistan wedi lansio apêl am dros $160m o gymorth i Pacistan, yn sgil llifogydd difrifol yn y wlad. 

Ers mis Mehefin, mae Pacistan wedi gweld amodau tywydd monsŵn difrifol wrth i'r wlad brofi'r glaw gwaethaf mewn 30 mlynedd. 

Yn ôl y llywodraeth, mae'r llifogydd eithafol wedi effeithio ar dros 33 miliwn o bobl yn y wlad, neu un ymhob saith o'r boblogaeth. 

Mae dros 1,100 o bobl wedi marw yn sgil y llifogydd a bron i 500,000 wedi'u dadleoli. Dywedodd Gweinidog Cynllunio Pacistan, Ahsan Iqbal, y gall y difrod gostio mwy na $10 biliwn i economi'r wlad. 

Mae'r Cenhedloedd Unedig wedi apelio am $160.3m (£136m) mewn arian cymorth i Bacistan er mwyn lleddfu effeithiau'r llifogydd. 

Wrth lansio'r apêl, dywedodd Ysgrifenydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, António Guterres, fod y wlad yn dioddef yn enbyd ar hyn o bryd.

"Mae pobl Pacistan yn dioddef monsŵn ar steroids - effaith diddiwedd lefelau sylweddol iawn o law a llifogydd."

Ychwanegodd fod maint yr angen, gyda miliynau o bobl wedi ffoi o'u cartrefi, gydag ysgolion ac ysbytai wedi eu dinistrio, yn galw am ymateb rhyngwladol chwim.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.