Cyhuddo dyn o lofruddio ei fam 87 oed ym Mhowys

30/08/2022
Joyce Griffiths

Mae dyn 57 oed wedi’i gyhuddo o lofruddio ei fam 87 oed yn ardal Llanfrynach ger Aberhonddu ym Mhowys.

Cafodd swyddogion eu galw i gyfeiriad am tua 21.25 nos Wener.

Cafodd Margaret Joyce Griffiths ei chludo mewn hofrennydd i'r ysbyty ond bu farw'r diwrnod canlynol.

Mae John Anderson Griffiths wedi’i gyhuddo o lofruddiaeth. Mae’n parhau yn y ddalfa a bydd yn ymddangos o flaen Llys Ynadon Merthyr Tudful ddydd Mawrth.

Mae teulu Ms Griffiths wedi ei disgrifio fel menyw “hoffus”.

“Roedd Margaret Joyce Griffiths yn fam, nain, chwaer hoffus ac yn aelod ffyddlon a gweithgar o’r gymuned.

“Mae’r digwyddiadau trasig diweddar yn dorcalonnus ac wedi gadael y teulu mewn sioc ddofn.

“Rydym yn gofyn am barch at ein preifatrwydd ar yr adeg ofnadwy hon.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.