ITV yn talu am ganolfan groeso newydd i Gastell Gwrych

Mae ITV wedi talu am ganolfan groeso newydd i Gastell Gwrych yn Abergele ar ôl i Storm Arwen ddinistrio’r ganolfan flaenorol fis Tachwedd y llynedd.
Mae’r ymddiriedolaeth wedi gwneud cais i adran gynllunio Cyngor Sir Conwy i gadw’r ganolfan groeso yn y maes parcio am bum mlynedd.
“Yn garedig iawn, ddaru ITV brynu un newydd i ni, felly dyna’r un rydan ni’n gofyn am ganiatâd cynllunio ar ei chyfer,” meddai’r ymddiriedolaeth.
Mae’r caban newydd yn fwy o faint ac yn cynnwys cegin a thŷ bach ar gyfer staff, ond mae’n un symudol fel bod y safle’n parhau’n hyblyg ar gyfer ffilmio.
Bydd y cynlluniau’n cael eu trafod yng nghyfarfod y pwyllgor cynllunio yn y dyfodol.
Rhagor yma.