'Llwyddiant mawr' gêm arbennig ail Frwydr Fawr Maes Dulyn
'Llwyddiant mawr' gêm arbennig ail Frwydr Fawr Maes Dulyn
Mae dros 30 mlynedd ers Brwydr Fawr Maes Dulyn.
Yn ystod yr ornest arbennig honno yn 1990, bu actorion C'mon Midffîld a Pobol y Cwm yn wynebu ei gilydd mewn gêm bêl-droed fythgofiadwy.
Fe wnaeth y gêm ysbrydoli cân gan Sobin a'r Smaeliaid ac mae pobl leol Penygroes yn dal i ddwyn atgofion o'r diwrnod arbennig.
Ddydd Llun, fe ddychwelodd y frwydr fawr, wrth i CPD Nantlle Vale ddathlu ei ganmlwyddiant a'r ffaith fod yr Eisteddfod yn dychwelyd i Wynedd y flwyddyn nesaf.
Y tro yma, cafodd y gêm ei chynnal rhwng tîm o 'hoelion wyth' Nantlle Vale a thîm o sêr Cymru, gan gynnwys enwogion o'r byd teledu a cherddoriaeth.
Cafodd 1,000 o docynnau eu gwerthu ar gyfer y gêm arbennig, gyda'r cyffro'n amlwg ymhlith y gymuned leol.
Tîm Lejands CPD Nantlle Vale ddaeth i’r brig gyda sgôr terfynol o 6-4.
Roedd y digwyddiad yn codi arian ar gyfer clwb Nantlle Vale yn ogystal ag ar gyfer Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd 2023.