Newyddion S4C

'Siom a rhwystredigaeth' wedi i Liz Truss ganslo cyfweliad â'r BBC

29/08/2022
Liz Truss

Mae'r BBC wedi cyhoeddi bod Liz Truss wedi canslo cyfweliad â'r cyflwynydd Nick Robinson a oedd i fod i'w ddarlledu nos Fawrth. 

Daw'r datblygiad diweddaraf union wythnos cyn y cyhoeddiad ai Liz Truss neu Rishi Sunak fydd arweinydd nesaf y Ceidwadwyr a Phrif Weinidog nesaf Y Deyrnas Unedig.  

Dywedodd llefarydd ar ran y BBC: "Mae Liz Truss wedi canslo ei chyfweliad ar BBC 1 gyda Nick Robinson, a oedd i fod i'w ddarlledu nos Fawrth, 30 Awst am 7 yh.    

"Dywedodd tîm Ms Truss, na all hi bellach ddod o hyd i amser i ymddangos ar y rhaglen Our Next Prime Minister.

"Cafodd yr ymgeisydd arall ar gyfer arweinyddiaeth Y Blaid Geidwadol, Rishi Sunak, ei gyfweld gan Nick Robinson ar 10 Awst."

Ar ei gyfrif Twitter, dywedodd Nick Robinson ei fod yn teimlo'n "siomedig a rhwystredig " fod y cyfweliad wedi ei ganslo. 

Mae Liz Truss yn cael ei hystyried yn geffyl blaen yn y ras i arwain y Ceidwadwyr gyda'i chynlluniau hi a Rishi Sunak o dan y chwyddwydr ym maes yr economi a chostau byw. 

Aelodau'r Blaid Geidwadol sy'n dewis yr arweinydd Ceidwadol a'r Prif Weinidog nesaf yn Downing Street. Bydd y cyfnod pleidleisio yn dod i ben ddydd Gwener, gyda disgwyl i'r enillydd gael ei gyhoeddi ddydd Llun, 5 Medi.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.